Sgip i'r prif gynnwys

Hanes

Hanes sut y cafodd yr Oriel ei sefydlu a'i adeiladu.

Yn 1981 prynodd Cyngor Sir Ynys Môn, mewn ocsiwn, gasgliad stiwdio Charles Tunnicliffe, a fu farw ym 1979. Roedd yr arlunydd wedi byw ym Malltraeth, Ynys Môn ers symud yno o'i ardal enedigol yn Swydd Gaer ym 1947. Trwy ymdrechion yr Awdurdod Lleol, ynghyd â phenderfyniad dilynwyr o'i waith, prynwyd y casgliad hwn yn ei gyfanrwydd a'i ddiogelu ar gyfer trigolion yr ynys a'i hymwelwyr. Yn dilyn y caffaeliad hwn, penderfynwyd bod angen cartref parhaol i’r casgliad. Arweiniodd y curadur, Denise Morris, dîm a lwyddodd i sefydlu Oriel Ynys Môn; amgueddfa ac oriel bwrpasol a agorodd ym 1991 i gasglu ac arddangos celf ac arteffactau yn ymwneud ag Ynys Môn.

Yn ogystal â chasgliad Charles Tunnicliffe, mae yna hefyd gasgliadau celf sylweddol o waith gan Syr Kyffin Williams a’r chwiorydd Massey yn ogystal ag arlunwyr adnabyddus o Gymru gan gynnwys Claudia Williams, Gwilym Pritchard a Peter Prendergast. Yn 2008, ehangodd Oriel Môn, gan ychwanegu oriel - Oriel Kyffin Williams a all arddangos eitemau o gasgliadau cenedlaethol. Ariannwyd yr oriel trwy werthu argraffiad cyfyngedig o brintiau yn seiliedig ar luniadau Kyffin Williams, cyllid gan ei gorff llywodraethu - Cyngor Sir Ynys Môn, rhoddion gan y cyhoedd trwy Ymddiriedolaeth Kyffin Williams a Chyngor Celfyddydau Cymru.