Newyddion

Lle mae Wally?
Chwilio Arswydus yn yr Amgueddfa – Dewch o hyd i Wally yn Oriel Môn
Y Calan Gaeaf hwn bydd Wally, un o hoff gymeriadau llyfrau plant y byd - sy’n gwisgo siwmper streipiau coch a gwyn a sbectol ddu - yn teithio o amgylch y wlad gan ymddangos mewn amgueddfeydd, yn cynnwys Oriel Môn, Llangefni. Bydd modd i deuluoedd ymuno yn y gwaith o chwilio am Wally yn Oriel Môn fel rhan o Lle mae Wally? Chwilio Arswydus yn yr Amgueddfa, a drefnir gan Walker Books a Kids in Museums er mwyn dathlu cyhoeddiad y llyfr newydd, Where’s Wally? Spooky Spotlight Search.
Mae dros 75 o amgueddfeydd o amgylch y DU wedi cofrestru i gynnal digwyddiad o’r fath, sydd wedi’i amseru’n berffaith ar gyfer calan gaeaf. Caiff y gweithgaredd ei chynnal yn yr amgueddfeydd perthnasol rhwng 9 Hydref a 1 Tachwedd 2020 a bydd yn cael ei addasu ym mhob amgueddfa er mwyn cydymffurfio â gofynion cadw pellter cymdeithasol. Bydd gweithgareddau ar-lein hefyd ar gael ar gyfer y teuluoedd hynny nad ydynt yn dewis ymweld â’r amgueddfeydd yn bersonol.
Bydd modd i deuluoedd ymweld â’u hamgueddfeydd lleol er mwyn chwilio am Wally ymysg eu casgliadau a sillafu brawddeg arswydus a fydd wedi’i chuddio ger fersiynau bach o Wally a bydd modd cael llyfrnod “Dwi wedi dod o hyd i Wally!” ar ôl cwblhau’r chwiliad, ynghyd â’r cyfle i gystadlu yn y gystadleuaeth Lle mae Wally? gan Kids in Museums er mwyn cael cyfle i ennill Aelodaeth ArtFund i Deulu a phecyn o nwyddau Lle mae Wally?
Bydd Walker yn darparu’r amgueddfeydd sy’n cymryd rhan â nifer o argraffiadau a deunyddiau digidol ynghyd â thaflenni gwaith, posteri, llyfrnodau, bathodynnau i’r staff a deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
Meddai Alison Bowyer, Cyfarwyddwr Gweithredol Kids in Museums:
“Rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio â Walker Books eto eleni. Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn heriol iawn i’r sector treftadaeth felly rydym yn falch o gefnogi hyd yn oed mwy o amgueddfeydd i allu cynnal digwyddiad diogel a hwyliog y mis Hydref hwn. Gobeithiwn allu croesawu teuluoedd yn ôl i safleoedd treftadaeth a’u helpu nhw i fwynhau’r cyfoeth o brofiadau sydd ar gael.”
Am fwy o wybodaeth am Lle mae Wally? Chwilio Arswydus yn yr Amgueddfa yn Oriel Môn cysylltwch â Ceri Williams ar (01248 752189) neu anfonwch e-bost at ceriwilliams@ynysmon.gov.uk