Polisiau
Cenhadaeth, nodau a pholisïau
Mae Oriel Môn yn newid bywydau trwy ofalu am dreftadaeth a diwylliant unigryw Ynys Môn a’u dehongli a’u hyrwyddo. Mae'n ceisio ysbrydoli creadigrwydd, a rhoi cyfleoedd dysgu a mwynhad i bawb.
Nodau:
- Cael ymwelwyr i fod â diddordeb mewn casgliadau ac arddangosfeydd ysbrydoledig ar garreg y drws
- Creu atyniad blaenllaw sy'n diffinio ynys a'i phobl
- Cynnig gofod cymdeithasol cyffredin gyda chyfleoedd cyffrous i gymryd rhan
- Datblygu canolfan ragoriaeth wydn, gynaliadwy ac arloesol.
Caiff Oriel Môn ei rheoli a’i chynnal gan Gyngor Sir Ynys Môn, ac mae'n rhan o'r Adran Ddysgu. Mae Oriel Môn yn cydymffurfio â pholisïau a strategaethau Cyngor Ynys Môn ac yn cyfrannu atynt yn ogystal ag â strategaethau cenedlaethol a dogfennau cyfreithiol, megis y Ddeddf Llesiant.
Mae Oriel Môn yn Amgueddfa Achrededig Llawn (rhif.156) ac mae'n rhan o rwydwaith mawr o amgueddfeydd gan gynnwys Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru, Cymdeithas yr Amgueddfeydd, Cymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol a Chymdeithas y Mentrau Diwylliannol. Cefnogir Oriel Môn gan Ymddiriedolaeth Oriel Môn ac mae'n gweithio'n agos ag Ymddiriedolaeth Kyffin Williams.