10.10.20 - 11.04.21
Blynyddoedd Cynnar Charles Tunnicliffe
Am ddim
Ganed Charles Tunnicliffe yn Langley, pentref bychan ger Macclesfield.
Yn blentyn ifanc iawn, byddai’n helpu ar fferm y teulu gan ddysgu am yr anifeiliaid a’u hanghenion. Byddai hefyd yn crwydro’r cefn gwlad cyfagos gan ddatblygu diddordeb yn y bywyd gwyllt lleol. Mae’r arddangosfa hon yn edrych ar ei waith cynnar, a’i ddatblygiad i fod yn un o artistiaid a darlunwyr bywyd gwyllt mwyaf poblogaidd a dylanwadol Prydain.
10.10.20 - 11.04.21