Sgip i'r prif gynnwys
11.02.23 - 14.05.23

CELF AR Y CYD

Mae 'Celf ar y Cyd' yn brosiect ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru, Y Gaer, Oriel Môn a Chanolfan Gelf Aberystwyth.

Mae hoff ddarnau celf y genedl yn teithio i wahanol leoliadau yng Nghymru yn rhan o broject Celf ar y Cyd Ar Daith, menter i rannu’r casgliad celf genedlaethol â chymunedau ac orielau ar draws y wlad.

Bydd tua 30 gwaith celf o gasgliad Amgueddfa Cymru yn teithio I Oriel Môn o Chwefror 11 I Mai 14, 2023.

Cynhelir Celf ar y Cyd Ar Daith yn dilyn pleidlais a gynhaliwyd yn ystod pandemig Covid-19. Tra’r oedd orielau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gau yn 2020, dewisodd curaduron Amgueddfa Cymru 100 o weithiau celf a’u rhannu’n ddigidol trwy gyfrif Instagram @celfarycyd. Gofynnwyd i’r cyhoedd bleidleisio dros ei hoff weithiau celf o’r casgliad trwy ‘hoffi’ eu ffefrynnau. Defnyddiwyd y canlyniadau hyn i greu rhestr fer o’r hoff weithiau celf.

Nawr, mae detholiad o’r gweithiau celf fwyaf poblogaidd yn teithio i wahanol orielau yng Nghymru. O gelf gyfoes i serameg a ffotograffiaeth, mae’r detholiad yn adlewyrchu amrywiaeth a chyfoeth bywyd yng Nghymru. Ymlith yr artistiaid mae Thomas Jones, Betty Woodman, Adam Buick, David Hurn, Laura Ford, Elizabeth Fritsch a llawer mwy.

Grŵp o bedwar project yw Celf ar y Cyd, a ddatblygwyd i rannu’r celfyddydau gweledol ar draws Cymru fel ymateb i’r argyfwng iechyd cyfredol. Mae’r project, sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn Bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Yn ogystal â Celf ar y Cyd Ar Daith, mae’r projectau’n cynnwys Celf mewn Ysbytai, y cylchgrawn celfyddydol Cynfas, a chyfres o gomisiynau celf newydd yn gofyn i artistiaid sy’n gweithio yng Nghymru gydweithio â’u cymunedau i ymateb i’r argyfwng iechyd.

Dywedodd Nicola Gibson, Rheolwr Profiad Ymwelwyr:

“Rydym wrth ein boddau i fod yn gweithio ag Amgueddfa Cymru ar y prosiect hwn. Nid yn unig yw’n hynod ddiddorol gweld pa ddarnau o waith celf sydd wedi eu dewis gan y cyhoedd, rydym hefyd yn falch iawn o allu sicrhau bod y darnau hyn ar gael i bobl eu gweld y tu allan i Gaerdydd.”

Meddai Kath Davies “Bydd hoff weithiau celf y cyhoedd a ddewiswyd trwy bleidlais yn mynd ar daith, gan fynd â’r casgliad cenedlaethol i gymunedau ar draws Cymru. Trwy weithio mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Y Gaer ac Oriel Môn, caiff pobl ar draws Cymru fwynhau’r gweithiau celf hyn”

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:
“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu darparu cymorth ariannol ar gyfer Celf ar y Cyd. Mae’n newyddion gwych bod yr arddangosfa hon - a ddewiswyd gan bleidlais y cyhoedd - bellach yn teithio Cymru. Mae’n ffordd wych o alluogi mwy o bobl i weld cyfoeth ac amrywiaeth gweithiau celf Amgueddfa Cymru a’i rannu â chymunedau ledled Cymru.

Amgueddfa Cymru
Cyngor Celfyddydau Cymru
11.02.23 - 14.05.23