Gilly Thomas a Louise Morgan – Celf fel Gwrthwenwyn
Arddangosfa ar y cyd rhwng Gilly Thomas a Louise Morgan
Dau artist gwahanol iawn y mae’r ddau ohonynt yn cydnabod y grym unigol sydd gan Gelf er mwyn dod yn rhyw fath o warchodwr, yn wir rywbeth sy’n hanfodol. Gan gropian yn llechwraidd i gorneli meddyliol lle mae ystyr yn ceisio cuddio, mae Gilly Thomas yn mwyngloddio am y delweddau gwibiog sy’n gallu dangos teimladau mewn modd gweledol.
Weithiau’n hynod, weithiau’n absẃrd, mae’r grym yno i gael gwared ar gythreuliaid ond hefyd awgrymu dehongliadau cysylltiol. Cryptig, eironig ac obsesiynol, mae’r gweithiau hyn yn cael teitlau a allai gadarnhau neu gamgyfeirio.
Mae Gilly yn credu bod cyfraniad y canfyddwr, y mae’r edrychwr yn ei gyfrannu, yn hanfodol. Mae lluniau a phaentiadau Louise Morgan wedi eu hysbrydoli gan farddoniaeth Cymraeg, ei rhyfeddod o’r tirlun ac etifeddiaeth ingol yn yr amgylchedd naturiol o hanes diwydiannol yn diflannu.
Yn y stiwdio, mae hi wedyn yn gweithio mewn modd arbrofol a mynegiannol ar y pwnc hwn gan ddatblygu’r posibiliadau aneirif o baent a marciau arloesol gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau. Yn llawn o deimladau treigl amser, mae’r gweithiau pwerus hyn yn galw ar ysbrydion cenedlaethau’r gorffennol.