Sgip i'r prif gynnwys
12.02.22 - 03.07.22

Kyffin Williams a Thechnegau'r Artist

Am ddim

Detholiad o luniadau, paentiadau ac argraffiadau o gasgliad yr Oriel.

Yn ystod ei yrfa, cynhyrchodd Kyffin Williams luniau dramatig o dirlun Cymru a’i phobl. Llwyddodd ei dechnegau trwm i ddal teimlad a chymeriad yn llwyddiannus. Mae’r arddangosfa hon yn cyflwyno detholiad o luniadau, paentiadau ac argraffiadau o gasgliad yr Oriel ac yn edrych ar y dulliau a ddefnyddiodd er mwyn creu’r darnau arwyddocaol hyn o gelf sy’n agos iawn at galonnau pobl.