Sgip i'r prif gynnwys
16.09.21 - 31.01.22

Gwobr Lluniadu Kyffin Williams 2021

Am ddim

Hyrwyddo a gwobrwyo talent ac ardderchogrwydd mewn lluniadu

Roedd Syr Kyffin Williams yn hyrwyddwr brwdfrydig o’r celfyddydau yng Nghymru, a bu’n gefnogwr brwd a gweithgar o waith Oriel Môn ers iddi agor yn 1991.

Yn ystod Haf 2008 cafodd Oriel Môn y fraint o agor y drysau i’w horiel newydd – Oriel Kyffin Williams. Ers y cychwyn cyntaf roedd Kyffin Williams yn rhan o’r gwaith o ddewis lleoliad a chynllunio’r Oriel.

Yn ei haelioni rhoddodd Kyffin Williams dros 400 o weithiau celf gwreiddiol i Oriel Môn, o sgetsys i ddarluniau i waith olew sylweddol.

Fe sefydlodd Ymddiriedolaeth Kyffin Williams y Gwobr Lluniadu fel teyrnged i’r holl gefnogaeth a rhoddodd i arlunwyr a’r pwyslais ar sgiliau lluniadu.