Sgip i'r prif gynnwys
17.04.21

Siop Oriel Môn yn ail agor

Am ddim

Mae siop yr Oriel yn ail agor i'r cyhoedd ar y 17eg o Ebrill 2021

Siop Oriel Môn i ailagor ddydd Sadwrn

Mae staff Oriel Môn yn falch y bydd siop boblogaidd y galeri gelf yn ailagor i’r cyhoedd am 10:00am, ddydd Sadwrn 17 Ebrill. Gobeithiwn y bydd ein hymwelwyr yn dod i’n cefnogi yn ystod y cam cyntaf hwn o ailagor.

Bydd y Galerïau, Amgueddfeydd a’r Caffi yn parhau ar gau am y tro ond gallwn eich sicrhau y bydd croeso cynnes i bawb sy’n ymweld â ni yn y siop dros yr wythnosau nesaf.

Fel Amgueddfa Gyhoeddus a Galeri Gelf, mae Oriel Môn yn disgwyl am arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru o ran pryd y gall ailagor y drysau er mwyn gallu croesawu ymwelwyr yn ôl. Byddwn yn eich diweddaru unwaith y cawn wybod.

Bydd Siop yr Oriel ar agor ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 10:00am – 5:00pm. Bydd disgwyl i gwsmeriaid gadw at weithdrefnau diogelwch ar y safle. Gellir hefyd prynu ar-lein drwy fynd i www.orielmon.org. Am fwy o wybodaeth cysylltwch drwy ffonio 01248 724444 neu drwy anfon neges at oriel@ynysmon.llyw.cymru.

17.04.21
10:00