Sgip i'r prif gynnwys
18.05.21

Oriel Môn yn ail-agor 18 Mai

Am ddim

Oriel Môn yn ail-agor. Bydd yr Orielau, siop a caffi ar agor o Ddydd Mawrth i Ddydd Sul, 10am i 5pm.

Rydym ni yn Oriel Môn wrth ein boddau o fod yn medru croesawu ein hymwelwyr yn ôl ddydd Mawrth 18 Mai. Yn dilyn bod ar gau ers diwedd llynedd, mae hi nawr yn amser i chi ail-danio eich chwilfrydedd ac ail-ddarganfod y rhyfeddodau sydd gan yr Oriel i’w cynnig i chi gyd.

Tu ôl i ddrysau Oriel Kyffin Williams byddwch yn medru gweld gweithiau gwych ‘George Cockram’, bydd yr arddangosfa hon yn mynd yn ei blaen dan yr 20fed o Fehefin. Bydd yr Oriel Hanes yn datgelu rhyfeddodau ‘Parc Cybi’ ynghyd a’r arddangosfa anhygoel o ‘Flynyddoedd Cynnar Tunnicliffe’.

I’r rhai ohonoch sydd heb gael gweld yr arddangosfa drawiadol gan ‘Aimee Louise Jones’ yn yr Oriel Hir eto, rydym yn ei hymestyn tan y 13eg o Fehefin i roi cyfle i bawb ei gweld. Yn olaf, bydd yn rhaid i chdi ddisgwyl ychydig yn hirach i gael gweld yr arddangosfa hir-ddisgwyliedig gan ‘Wini Jones Lewis’ yn y Brif Oriel Gelf am fod ei harddangosfa ‘Nid yw Bywyd yn Ddu a Gwyn’ yn agored i bawb ddydd Sadwrn yr 22ain o Fai. Bydd y caffi a’r siop hefyd yn agored yn llawn i’ch temptio mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.

Bydd Oriel Môn ar agor o ddydd Mawrth tan ddydd Sul, 10am i 5pm.

Bydd disgwyl i gwsmeriaid gadw at weithdrefnau diogelwch ar y safle, gan gynnwys gwisgo gorchudd wyneb, defnyddio diheintydd dwylo, cadw pellter o 2 fedr oddi wrth staff ac ymwelwyr eraill a dilyn y llwybrau ar y safle. Mae’r mesurau diogelwch hyn ar waith er mwyn cadw ein staff a’n ymwelwyr yn ddiogel.

Fe'ch cynghorir i archebu tocyn i'r arddangosfa ymlaen llaw gan fod capasiti ymwelwyr ar y safle wedi ei leihau. Nid yw’n angenrheidiol - mi fedrwn gymryd eich manylion cyswllt wrth i chi ddod i mewn yn unol â gofynion Profi, Olrhain a Diogelu.

Archebwch tocyn ar-lein

Oriau gweini Caffi Dewi Oriel Môn fydd rhwng 10yb a 4.45yh (yr amser olaf ar gyfer archebu bwrdd fydd 3.15yh). Bydd mannau eistedd tu fewn a thu allan ar gael ac mae'n syniad da archebu er mwyn osgoi cael eich siomi. Bydd byrddau ar gael am awr a hanner.

Dywedodd Carol Morley, Rheolwr Manwerthu Ardal Hosbis Dewi Sant Ynys Môn:

“Rydym wrth ein boddau cael croesawu ein cwsmeriaid yn ôl i Gaffi Oriel Môn - rydym yn edrych ymlaen at gael gweld pawb. Bydd yr holl elw o bob paned o de neu fwyd cartref blasus sy’n cael eu mwynhau yn ein caffi elusen, Caffi Dewi yn gwneud gwahaniaeth parhaol i fywydau pobl Ynys Môn.

"Rydym yn falch o fod wedi agor yr hosbis gyntaf erioed yn Ynys Môn yn Ysbyty Penrhos ar y 1af o Fawrth. Roedd hyn o ganlyniad i’r ymdrechion codi arian cymunedol rhagorol, cefnogaeth gan gwsmeriaid y caffi a grantiau hael gan ymddiriedolaethau a sefydliadau.”

Bydd te prynhawn a thocynnau anrheg ar gael i'w prynu hefyd.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â ni.

Ffôn: 01248 724 444

Caffi Dewi Oriel Môn - i archebu bwrdd: 01248 751 516

E-bost: oriel@ynysmon.llyw.cymru