12.12.20 - 03.04.22
Parc Cybi: Tirlun Drwy'r Oesoedd
Am ddim
Arddangosfa archaeolegol o ddarganfyddiadau o safle Parc Cybi
Fe ddatgelodd y gwaith cloddio archaeolegol ym Mharc cybi, hanes y dirwedd gyfan o gyfnod sy'n mynd yn ôl dros 6000 o flynyddoedd hyd heddiw. Mae'r arddangosfa hon yn cyflwyno'r hyn a ganfuwyd yn ystod y gwaith cloddio ochr yn ochr â’r arteffactau eu hunain, gyda chyfraniadau gan ddisgyblion Ysgol Cybi. Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd fu'n gyfrifol am y gwaith cloddio a dehongli.
12.12.20 - 03.04.22