V'cenza & Piera Cirefice
Arddangosfa ar y cyd gyda tirluniau o Ynys Môn ac Iwerddon
Mae Piera Cirefice yn ddarlunydd Gwyddelig, yn byw yng Nghymru gyda gradd BA mewn Darlunio o Brifysgol Falmouth.
Wedi tyfu fyny ymysg y mynyddoedd Mourne, ac yn awr yn byw o fewn y mynyddoedd Cambrain, mae prydferthwch yr awyr agored yn sbarduno ei gwaith, gyda darlunio croniclo teithio wrth galon ei hymarfer.
Yn defnyddio y dulliau sylwadol traddodiadol o dynnu lluniau a dyfrlliw mae Piera yn anelu i ddogfenu ei phrofiad uniongyrchol o fewn y tirwedd.
Trwy ddyfrlliw en plein air, mae Piera hefyd yn gobeithio tynnu sylw at awyrgylch y tirlun byw, y syniad o uniongyrchedd drwy ddogfennu ei hymateb personol i'r tirwedd. Mae wedi ei dylanwadu gan ysgrifau Nan Shepherd, sydd yn credu fod y syniad o fynd allan i natur fel edrych i mewn ar ein hunain.
Mae V'cenza yn artist, ymchwilydd a gweithredwraig o'r mynyddoedd Mourne, County Down.
Bu tyfu fyny ar fferm fechan ymhlith teulu o artistiaid yn ddylanwad mawr arni a greodd gariad hir oes am natur a'r tir. Mae'r angerdd hwn yw weld yn ei hastudiaethau en plein air sydd yn canolbwyntio ar y profiad o ymgolli o fewn y tirwedd.
Mae ei gwaith wedi ei ddylanwadu gan yr amser iddi dreulio yn y tirwedd yn Iwerddon a Chymru gyda'i chwaer a'i chyd-arddangoswraig Piera. Mae'r tirweddau hyn, o Mourne i Ynys Môn, wedi eu dal mewn dyfrlliw, olew a phrint. Mae gwaith V'cenza yn adlewyrchu cydgysylltiad pobl a lle a'r cysylltiad ysbrydol gyda'r tir, cysylltiadau sydd yn hanfodol ar gyfer cael llesiant cymdeithasol ac ecolegol.