03.07.21 - 03.10.21
Eich Casgliad – dathlu 30 mlynedd o gelf yn Oriel Môn
Am ddim
Arddangosfa i ddathlu 30 mlynedd ers agor Oriel Môn
Eich Casgliad – Dathlu 30 mlynedd o gelf yn Oriel Môn
Agorwyd Oriel Ynys Môn i’r cyhoedd ar 25 Hydref 1991. Yn dilyn blynyddoedd o gynllunio a gwaith caled roedd gan Ynys Môn amgueddfa ac oriel gelf ei hun o’r diwedd a oedd wedi’i chynllunio i ddangos celf a gwrthrychau yn ymwneud â’n hynys unigryw a hudol.
Mae’r arddangosfa ddathliadol hon, a fydd yn cyd-fynd â phen-blwydd Oriel Môn yn 30 oed, yn edrych ar darddiad y gwaith ac yn cyflwyno gwaith celf allweddol o’r casgliad sy’n adrodd yr hanes diddorol o’i ddechreuad a’i ddatblygiad fel un o brif amgueddfeydd a galerïau celf gogledd Cymru.
03.07.21 - 03.10.21