Sgip i'r prif gynnwys

Casgliad Celf

Mae gan Oriel Môn gasgliad cyffrous ac amrywiol o luniau a phaentiadau gan lawer o arlunwyr enwog o Gymru.

Mae’r Casgliad hwn yn dod o waith Cyngor Cymunedol Gweldig Ynys Môn a fu’n casglu drwy gydol y degawdau yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yr rhan fwyaf yn waith gan artistiaid lleol i Ynys Môn ac yn cael eu casglu er mwynhad ac addysg pobl yr ynys. Cyn yr ad-drefniad o Gynghorau lleol yn 1996 roedd y casgliad yn cael ei guradu gan Wasanaeth Amgueddfaol Cyngor Sir Gwynedd cafodd ei drosgwlyddo i Gyngor Sir Ynys Môn wedi’r ad-drefnu.

Ers 1996 mae gwaith gan artistiaid eraill wedi ei ychwanegu i’r casgliad yn cynnwys artistiaid o Fôn neu gwaith sydd â’r ynys fel ei thema. Isod gallwch weld detholiad o’r casgliad hwn sy’n cynnwys gwaith gan Gwilym Pritchard, Claudia Williams, Peter Prendergast, Donald Macintyre, Iwan Gwyn Parry, Ishbel McWhirter, i enwi dim ond ychydig. I weld mwy o’r casgliad gallwch ymweld a gwefan Art Uk sydd yn cynnwys ein gwaith olew a chyfrwng cymysg. Rydym yn y broses o ddigido ein casgliad ar bapur.

Leonard McComb