Sgip i'r prif gynnwys

Charles Tunnicliffe

Mae'r casgliad yn cynnwys ei luniau mesuredig anhygoel, llyfrau brasluniau a lluniadau ffigur, gyda ddetholiad o'i weithiau dyfrlliw a paentiadau olew.

Yn 1981 prynwyd cynnwys stiwdio’r artist gan Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn. Mae'r casgliad hwn yn cynnwys ei luniau mesuredig anhygoel - dros 300 o astudiaethau manwl o adar ac anifeiliaid, y mwyafrif wedi'u tynnu o sbesimenau a gafwyd yn Ynys Môn.

Mae Oriel Môn hefyd yn gofalu am gasgliad o lyfrau brasluniau’r arlunydd - 52 o gyfrolau’n llawn o fywyd gwyllt, tirwedd ac astudiaethau pensaernïol anhygoel.

Mae'r casgliad yn sail i raglen arddangosfa dros dro Oriel Môn o Charles F. Tunnicliffe.

Symudodd Charles F Tunnicliffe o'i ardal enedigol yn Swydd Gaer i Ynys Môn ym 1947 a magu gwreiddiau yn yr ynys. Ar ôl derbyn hyfforddiant ffurfiol mewn celfyddyd gain yng Ngholeg Celf Brenhinol mawreddog Llundain, daeth yn un o arlunwyr a darlunwyr bywyd gwyllt mwyaf poblogaidd Prydain, yn ogystal â dod yn aelod llwyddiannus o’r Academi Frenhinol.