Sgip i'r prif gynnwys

Casgliad Hanes Cymdeithasol

Mae gan yr Oriel ystod ddiddorol ac eang o eitemau hanes cymdeithasol yn ymwneud ag Ynys Môn.

Yn eu plith mae nwyddau domestig o orffennol yr ynys, ynghyd â thecstilau fel gorchuddion gwely wedi'u gwehyddu'n lleol a gwisg draddodiadol.

Mae’r creiriau yn ein casgliad hanes cymdeithasol yn rhoi darlun unigryw i ni o gymdeithas yr ynys dros sawl canrif. O drasiedi’r Royal Charter, y traddodiad o wehyddu ar yr ynys i degannau o’r 70’au a’r 80’au. Rydym yn Amgueddfa gydag Achrediad, gyda safonau uchel o ofal casgliadau. Fel Amgueddfa sydd yn casglu rydym yn croesawu rhoddion i’r casgliad. Am fwy o wybodaeth am sut i rhoi i’r casgliad ewch i’n tudalen Casgliadau.