Sgip i'r prif gynnwys

Casgliad Kyffin Williams

Yn ystod ei oes rhoes Kyffin Williams, un o arlunwyr mwyaf poblogaidd a pharchus Cymru, bron i 400 o weithiau celf i gasgliad celf Oriel Môn.

Maent yn cynnwys detholiad o weithiau a ysbrydolwyd gan dirwedd Ynys Môn, ynghyd â phortreadau o ffrindiau a chydnabod yr arlunydd. Yn aml, dewisir enghreifftiau o'r casgliad hwn i'w harddangos yn ein rhaglen arddangosfeydd dros dro.