Sgip i'r prif gynnwys

Celf a cherdded: Teithiau tywys Kyffin Williams

Mae elusen genedlaethol Living Streets ac Oriel Môn wedi bod yn cydweithio ar brosiect cyffrous i greu a chynnal teithiau cerdded a naws celfyddydol. Ysbrydoliaeth y teithiau ydy’r artist lleol, Kyffin Williams.

Mae elusen genedlaethol Living Streets ac Oriel Môn wedi bod yn cydweithio ar brosiect cyffrous i greu a chynnal teithiau cerdded a naws celfyddydol. Ysbrydoliaeth y teithiau ydy’r artist lleol, Kyffin Williams.

Mae Living Streets Cymru, sy’n rhan o elusen y DU ar gyfer cerdded o ddydd i ddydd, ac Oriel Môn wedi dod ynghyd i greu teithiau cerdded mewn tri lleoliad yma ym Môn – Bae Trearddur, Llangefni a Pwllfanogl. Mae map cerdded wedi ei gyhoeddi i pobl gallu cerdded ar ei liwt eu hunain yn ogystal. Mae rhain ar gael o’r Oriel ac o nifer o atyniadau eraill yr ynys.


Mae’n brosiect sydd wedi ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol fel rhan o’r cynllun #Trysorau’r Filltir Sgwar. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.  Mi fydd teithiau tywys rheolaidd yn cael ei gynnig yn y tri lleoliad dan arweiniad gwirfoddolwyr a staff Oriel Môn.
Mae’r teithiau tywys yn cefnogi lles meddyliol a chorfforol ac yn cysylltu pobl leol â gwaith Kyffin Williams mewn lleoliadau golygfaol ar Ynys Môn. Mae’r teithiau cerdded mor hygyrch a phosib o ran y tirwedd a byddant yn cadw at gyfyngiadau Cofid-19.


Meddai Rhiannon Hardiman, Rheolwr, Living Streets Cymru:
“Mae’r Teithiau Cerdded yn ffordd dda o helpu pobl i ddechrau mynd allan i’r awyr agored a mwynhau eu hardaloedd yn ddiogel eto yn dilyn y cyfnod clo.
“Mae mynd allan i gerdded yn yr awyr iach yn bwysig ar gyfer ein llesiant, yn ein cadw’n actif ac yn ein cysylltu â’r bobl o’n cwmpas. Mae gan lwybrau cerdded Kyffin Williams y fantais ychwanegol o'n dysgu ni am y dreftadaeth celf sydd gennym ar ein stepen drws.”


Mae’r adborth gan rhai o’r rhai sydd wedi bod ar y daith gerdded ym Mae Trearddur yn cynnwys:
Roedd y daith gerdded ddydd Sul diwethaf yn ardderchog ac yn wir dysgais lawer iawn am Kyffin a Trearddur.


Diolch am drefnu hwn. Roedd yn fore hwyliog iawn. Dwi’n edrych ymlaen at fwy o’r teithiau cerdded yma!


Fe wnes i fwynhau’r daith yn fawr iawn, roedd cael cyfle i ddysgu am ardal a gwaith Kyffin yn ddifyr iawn ac edrychaf mlaen at ragor o deithiau tebyg yn y dyfodol.

Wedi’i eni yn Llangefni yn 1918, mae Kyffin Williams yn cael ei ystyried yn eang fel un o artistiaid mwyaf diffiniol Cymru yn yr ugeinfed ganrif ac mae ei baentiadau'n darlunio gerwindeb tirweddau ac arfordiroedd Cymru, yn aml mewn tywydd gwlyb, llwm a chythryblus. Drwy ei fraslunio a'i baentio 'ên plein air', mae'n gosod esiampl wych o'r ffaith bod cerdded yn ymwneud â'r hyn rydych chi’n ei wisgo ac y gellir ei fwynhau bod yn law neu’n hindda.

Bae Trearddur, Kyffin Williams, 149/90
Bae Trearddur, Kyffin Williams, 149/90

Mapiau

Gwirfoddoli

Cysylltiedig

Gweld popeth
Gweithgareddau