Caffi
Mae Café Dewi, Hosbis Dewi Sant yn Oriel Môn yn cynnig cynnyrch ffres a thymhorol o’r safon uchaf er mwyn cynnig bwydlen amrywiol a blasus.
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, bydd caffi Dewi ar gau dros dro. Os gwelwch yn dda dilynwch dudalen Facebook Caffi Dewi, St David's Hospice i gael gwybod am unrhyw newidiadau.
Mae’r gegin yn cynnig dewis gwych o gacennau a phwdinau sydd ar gael bob dydd ynghyd ag amrywiaeth o brydau bwyd llysieuol a phrydau i blant.
Croesewir ymholiadau ynghylch digwyddiadau arbennig, grwpiau a chynadleddau.
Bydd yr holl elw o bob paned o de neu bryd o fwyd cartref a fwynheir yng Nghaffi Dewi yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl Ynys Môn.
Mae Hosbis Dewi Sant yn elusen leol a fydd yn agor Hosbis newydd i Ynys Môn yn Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi yng Ngwanwyn 2020.
Cyswllt
01492 879058 estyniad 222 (Dydd Llun a Mawrth)
01248 751516 (Dydd Mercher i'r Sul)
E-bost: Cafedewi@outlook.com
