Sgip i'r prif gynnwys

Gwybodaeth Coronafeirws

Ailagor drysau Oriel Môn - Newidiadau y gallwch eu disgwyl

Rydym i gyd wedi gweithio'n galed i fedru ail-agor ein drysau. Lles a diogelwch ein staff a'n hymwelwyr yw ein blaenoriaeth. Rydym wedi gwneud newidiadau ar y safle, yn ogystal â newidiadau i sut mae pobl yn trefnu eu hymweliad. Gweler isod grynodeb o'r newidiadau sef;

  • Rydym wedi gosod glanweithyddion dwylo awtomatig trwy’r adeilad ac yn annog pawb i'w defnyddio, yn enwedig wrth fynd i mewn.
  • Byddwn yn gofyn i bawb archebu eu hymweliad am ddim trwy system ar-lein newydd o docynnau amser. Bydd hyn yn sicrhau y bydd modd i ni reoli’n ddiogel faint o bobl fydd ar y safle ar unrhyw adeg. Mae'r system hefyd yn gydnaws â'r cynllun Profi, Olrhain a Diogelu. Gallwn groesawu ymwelwyr heb iddynt drefnu lle ar-lein ond ni allwn sicrhau y bydd lle ar gael gan fod ein capasiti ymwelwyr yn llai a bydd angen i chi roi eich enw a’ch manylion cyswllt pan fyddwch chi’n cyrraedd. Ni fyddwn yn caniatáu mynediad i’r rheini nad ydynt yn fodlon rhannu eu manylion cyswllt ar gyfer y cynllun Profi, Olrhain a Diogelu.
  • Parchwch ymwelwyr eraill a staff a byddwch yn garedig tuag atynt pan fyddwch yn ymweld â ni os gwelwch yn dda - rydym am i bawb fwynhau eu hamser yn Oriel Môn mewn amgylchedd diogel. Cofiwch fod ein staff yn gweithio mewn amgylchedd newydd - rydym oll yn dysgu addasu i realiti Covid 19.
  • Ers 9 Tachwedd, 2020 dylid cadw grwpiau cymdeithasol mor fach a phosibl yng Nghymru. Gall uchafwm o 4 o bobl gyfarfod nad ydynt i’r un cartref (heb gynnwys plant o dan 11 oed a gofalwyr). Fe ddylai pawn gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr oddi wrth pobl sydd y tu allan i’w swigen.
  • Mae cod QR ar gael i’w sganio ar gyfer y rhai hynny sy’n defnyddio’r Ap GIG. Mae hwn i’w ddefnyddio yn ychwanegol at y broses o gasglu enwau a rhifau ffôn, cyn cyrraedd ac wrth gael mynediad, a hynny fel rhan o’r cynllun Profi, Olrhain, Amddiffyn.
  • Mae gennym system llif unffordd trwy’r adeilad, gan gynnwys yn y siop. Dilynwch ein harwyddion a pharchwch bellter cymdeithasol 2 fetr os gwelwch yn dda.
  • Fe ddylai’r holl ymwelwyr wisgo gorchudd wyneb yn ystod eu hymweliad (heblaw pan fyddant yn eistedd wrth fwrdd yn y caffi). Bydd ein staff yn gwisgo feisor neu fasg. Rhowch wybod i aelod o staff os ydych angen gallu darllen gwefysau neu os oes gennych reswm meddygol dros beidio â bod angen gwisgo gorchudd wyneb, er mwyn iddynt allu eich cynorthwyo.
  • Cyfyngir ar nifer yr ymwelwyr ym mhob rhan o'r adeilad ac o fewn rhanau o’r adeilad. Byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda.
  • Bu'n rhaid i ni dynnu'r rhan fwyaf o'r eitemau o'r ardaloedd chwarae i blant, gan gynnwys llyfrau, gwisgo i fyny a theganau. Byddwn yn cynnig gweithgareddau gwarbac pan ar gael (byddant yn cael eu glanhau a'u rhoi dan gwarantîn am 72 awr cyn y gellir eu hailddefnyddio)
  • Bydd ein caffi wedi'i gyfyngu i fwyd a diod i fynd allan, ac os bydd y tywydd yn caniatáu, i seddi y tu allan yn unig.
  • Bydd ein toiledau ar agor i'r cyhoedd ond dim ond 1 unigolyn gaiff fynd i mewn ar y tro, a hynny er mwyn osgoi cyswllt agos. Mae gennym glo syml ar y tu allan i ddrysau'r toiled i sicrhau mai dim ond 1 person sy'n gallu mynd i mewn ar y tro. Rydym yn annog glanweithio dwylo cyn ac ar ôl ymweliad â'r ystafell ymolchi.
  • Bydd ein llecyn chwarae awyr agored ar agor ond rydym yn annog rhieni neu warcheidwaid i sicrhau pellter cymdeithasol. Rydym hefyd yn annog defnyddio glanweithydd dwylo awtomatig cyn mynd i mewn i'r man chwarae.
  • Rydym yn annog yn gryf eich bod yn talu hefo cerdyn yn ein siop a'n caffi. Mae’r terfyn ar gyfer taliadau digyswllt bellach wedi codi i £45. Nid oes isafswm gwariant ar gyfer talu gyda cherdyn.
  • Rydym yn annog ymwelwyr â’n siop a’n Ffair Grefftau Nadolig i ddefnyddio basged wrth siopa ac i beidio â chyffwrdd eitemau heb fod angen.
  • Ni fyddwn yn cynnal unrhyw ddigwyddiadau na gweithgareddau ar y safle yn 2020 - ond byddwn yn cynnal gweithgareddau ar-lein. Rhowch wybod i ni beth yr hoffech i ni ei ddatblygu, os nad ydych chi eisoes wedi cwblhau ein harolwg.
  • Mi fydd llawer o gynhyrchion unigryw Oriel Môn ar gael yn fuan ar-lein trwy ymweld a’n prif wefan www.orielmon.org. Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu rhywbeth sydd yn siop yr Oriel yn Llangefni yna gallwn wneud trefniant ffonio a chasglu.

Mwynhewch yr arddangosfeydd a chefnogwch ein hartistiaid a'n gwneuthurwyr crefft os gwelwch yn dda. Mae Oriel Môn yn dibynnu ar incwm a enillir (48% fel arfer), felly ystyriwch roi rhodd i Ymddiriedaeth Oriel Môn a dod yn Gefnogwr / Gefnogwraig hefyd os gwelwch yn dda. Mae angen eich cefnogaeth arnom. Diolch.