Sgip i'r prif gynnwys

Llogi’r Lleoliad

Mae gennym nifer o ystafelloedd y gellir eu llogi i gynnal digwyddiadau. .

Oriel ac amgueddfa gelf yng nghanol Ynys Môn a ffurfiwyd ym 1990 i gartrefu casgliad Charles Tunnicliffe, yw Oriel Môn. Mae’n newid bywydau trwy ofalu am dreftadaeth a diwylliant unigryw Ynys Môn a’u dehongli a’u hyrwyddo. Ceisia ysbrydoli creadigrwydd, a chyflwyno cyfleoedd dysgu a mwynhad i bawb.

Bellach caiff Oriel Môn ei rheoli gan Gyngor Ynys Môn ac mae'n dibynnu ar gefnogaeth yr awdurdod lleol, Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn ac Ymddiriedolaeth Oriel Môn. Mae incwm o werthu celf, nwyddau yn y siop, rhoddion a llogi’r lleoliad yn helpu i gefnogi ein rhaglenni addysgol, ymgysylltu â'r gymuned, cadwraeth ac artistig.

 Cysylltwch ynglyn â posibiliad archebu digwyddiadau ar gyfer 2022