Sgip i'r prif gynnwys

Yn yr Ardal

Mae yna lawer o leoedd i ymweld â nhw yn yr ardal.

Un o'r rhai agosaf at Oriel Môn yw Gwarchodfa Natur Nant y Pandy. (Mae digon o arwyddion iddo o Oriel Môn) Taith gerdded trwy goetir hyfryd yr holl ffordd i fyny i Gronfa Ddŵr Cefni, golygfa odidog. 

Mae Archifdy Ynys Môn hefyd gerllaw yn nhref Llangefni. Mae’n gartref i gasgliad hynod ddiddorol o fapiau, papurau newydd, lluniau a chofnodion cyfrifiadau yn adrodd hanes trigolion Ynys Môn dros y canrifoedd.

Mae gan yr Ynys dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog. Mae Barclodiad y Gawres ger Rhosneigr yn un o henebion cynhanesyddol niferus yr ynys, tra bod Siambr Gladdu Llugwy'r ochr arall i'r ynys, ger Moelfre, yn dyddio'n ôl i'r trydydd mileniwm CC. CADW sy'n rhedeg y safleoedd hyn ac mae mwy o wybodaeth ar eu gwefan yma: cadw.llyw.cymru

Tŷ hanesyddol ysblennydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw Tŷ a Gerddi Plas Newydd, ger Llanfair PG, mewn tiroedd hyfryd ar lannau’r Fenai. Pan fyddwch yn Llanfair PG mae'n werth edrych ar yr orsaf am gyfle i dynnu llun o'r enw hiraf yn y byd. Mae James Pringle Weavers yma hefyd.

Mae tref fach brysur Porthaethwy sydd fymryn pellach i lawr y ffordd o Lanfair PG wedi'i henwi ar ôl pont grog haearn gyntaf y byd. Gallwch ddysgu am hanes Pontydd Menai a Britannia yng Nghanolfan Thomas Telford.

Mae tref arfordirol hyfryd Biwmares yn gartref i Gastell Biwmares, a adeiladwyd tua diwedd teyrnasiad Edward I ac sydd bellach yng ngofal CADW. Mae’r Carchar a’r Llys Fictoraidd hefyd yn lleoedd y mae'n werth ymweld â nhw pan fyddwch ym Miwmares.

Mae Ynys Môn wedi'i hamgylchynu gan draethau hyfryd ac un o'r rhai mwyaf syfrdanol yw Llanddwyn. Mae’n gartref i oleudy hardd ac adfeilion Eglwys Santes Dwynwen, yn rhan o Warchodfa Natur Niwbwrch ac mae iddi olygfeydd godidog ar draws y Fenai a thuag at Eryri.

Mae modd mynd am deithiau cerdded gwych am 125 o filltiroedd ar hyd Llwybr Arfordirol Ynys Môn, teithiau sy’n cynnwys Mynydd Twr, Gwarchodfa natur Cemlyn a Phriordy Penmon.

Mae gan Oleudy Ynys Lawd olygfeydd dramatig a bythgofiadwy dros y môr lle gallwch, ar ddiwrnod clir, gael cipolwg ar dir mawr Dulyn. Mae waliau clogwyni serth Ynys Lawd hefyd yn gartref i gytrefi enfawr o nythod y wylog, y pâl a’r gwalch.

Mae yna hefyd ddigon o leoedd sy’n addas i deuluoedd, megis y Sŵ Môr, Fferm Foel a Halen Môn ym Mrynsiencyn. Gerddi Pili Palas a Phlas Cadnant ym Mhorthaethwy a Melin Llynnon yn Llanddeusant, y felin wynt olaf i oroesi ar yr ynys.

Gwefan Croeso Môn yn agor ffenestr newydd Gwefan Atyniadau Môn yn agor ffenestr newydd