Skip to main content
10.05.24

Darlith Flynyddol Kyffin Williams

Eleni, mae Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams yn falch o groesawu un o’i aelodau, David Smith, i gyflwyno darlith goffa flynyddol Syr Kyffin Williams.

Eleni, mae Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams yn falch o groesawu un o’i aelodau, David Smith, i gyflwyno darlith goffa flynyddol Syr Kyffin Williams yn Oriel Môn, ddydd Gwener 10 Mai am 7.00 pm.

Treuliodd David dri degawd yn addysgu ffiseg yn Ysgol Highgate, a daeth ar draws gwaith Kyffin am y tro cyntaf ym 1984 drwy lun dramatig oedd yn hongian ar waliau’r ystafell staff, oedd llawn mwg sigaréts bryd hynny. Dechreuodd ei berthynas gydag Oriel Môn yn 2007, pan ddaeth i Langefni i wneud ymchwil wrth baratoi cyflwyniad am Kyffin. Y flwyddyn olynol, gwyliodd David Meredith, cyn Gadeirydd Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams, yn lansio llyfr am yr artist (‘Bro a Bywyd’) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac fe estynnodd wahoddiad iddo ddod i’r ysgol. Yn sgil hyn oll, dechreuwyd cyfres o Ddarlithoedd Blynyddol yn Highgate, (Annual Highgate Lectures) yn 2009, a oedd yn dathlu Kyffin, a bydd yr unfed ddarlith ar bymtheg yn cael ei chynnal fis Chwefror eleni.

Ers ymddeol o addysgu yn 2014, mae David yn gweithio rhan amser yn Archifdy’r Ysgol, ac yn 2018 cafodd arwain dwy arddangosfa canmlwyddiant yn Highgate, un yn yr ysgol a’r llall yn yr Highgate Literary and Scientific Institution, dafliad carreg i ffwrdd. Gyda’i gilydd, mae’n bosib mai dyma’r ddwy arddangosfa i gynrychioli’r casgliad mwyaf o waith Kyffin y tu allan i Gymru. O ganlyniad i’w ymdrechion i hyrwyddo gwaith Kyffin yn Llundain, gwahoddwyd David i ymuno ag Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams yn 2017.

Bydd y ddarlith yn cynnwys straeon o’r blynyddoedd yn dilyn y rhyfel, pan roedd Kyffin yn Feistr Celf yn Highgate, cyn iddo ddychwelyd i Fôn ym 1974, 50 mlynedd yn ôl. Bydd y cyflwyniad yn gyfoeth o enghreifftiau ac yn cyfeirio at ymchwil a wnaed gan David gyda chymorth ei bartner, Caren Efans, ar gyfer y ddwy sioe yn Highgate yn ogystal â’r arddangosfa lwyddiannus, ‘Schoolmaster Artist: Kyffin Williams in London’, oedd i’w gweld yn Oriel Môn yn 2022.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams yn 2007 er mwyn cefnogi’r ymgyrch i adeiladu Oriel Kyffin Williams, sydd o’r radd flaenaf ac sy’n rhan o Oriel Môn. Ers 2009, mae’r Ymddiriedolaeth wedi trefnu darlithoedd blynyddol, sy’n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ac yn Saesneg ar yn ail, fel rhan o’r rhaglen artistig yn Oriel Kyffin Williams.

Delwedd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Ymunwch â ni ar gyfer darlith flynyddol Syr Kyffin Williams
‘There’s a pheasant on the roof: Kyffin Williams in Highgate’ gan David Smith.

Nos Wener 10fed o Fai 7yh.

Tocynnau yn £5yp ar gael o dderbynfa Oriel Môn neu cysylltwch â ni drwy ffonio 01248 724444 neu ebostiwch orielmon@ynysmon.llyw.cymru

10.05.24
7:00yh