Neidio i'r prif gynnwys

Oriel Môn

Arddangosfeydd

Mehefin 2025

Digwyddiadau

  • Ffotograff o plentyn yn dal blodau.
    18 Mehefin
    1pm tan 3pm
    Gweithdy Gwerin
    Gweithdy i Oedolion
    Ymunwch â'n gweithdy gwerin a dyluniwch eich gwasgod eich hun yn Oriel Môn

Amgueddfa

Hanes

Sut y cafodd yr Oriel ei sefydlu a'i adeiladu

Yn 1981, prynodd Cyngor Sir Ynys Môn gasgliad stiwdio Charles Tunnicliffe, a fu farw ym 1979. Roedd yr arlunydd wedi byw ym Malltraeth, Ynys Môn ers symud yno o'i ardal enedigol yn Swydd Gaer ym 1947.

Trwy ymdrechion y cyngor, ynghyd â phenderfyniad dilynwyr o'i waith, prynwyd y casgliad hwn yn ei gyfanrwydd a'i ddiogelu ar gyfer trigolion yr ynys a'i hymwelwyr.

Yn dilyn y caffaeliad hwn, penderfynwyd bod angen cartref parhaol i’r casgliad.

Arweiniodd y curadur, Denise Morris, dîm a lwyddodd i sefydlu Oriel Ynys Môn - amgueddfa ac oriel bwrpasol a agorodd ym 1991 i gasglu ac arddangos celf ac arteffactau yn ymwneud ag Ynys Môn.

Charles Tunnicliffe yn edrych ar weithiau celf yn ei stiwdio
Darlun o Pochard gan Chrles Tunnicliffe
Oriel Charles Tunnicliffe
Oriel Kyffin Williams
Paentiad Kyffin Williams o Drearddur mewn storm

Yn ogystal â chasgliad Charles Tunnicliffe, mae yna hefyd gasgliadau celf sylweddol o waith gan Syr Kyffin Williams a’r chwiorydd Massey yn ogystal ag arlunwyr adnabyddus o Gymru gan gynnwys Claudia Williams, Gwilym Pritchard a Peter Prendergast.

Yn 2008, ehangodd Oriel Môn, gan ychwanegu oriel - Oriel Kyffin Williams a all arddangos eitemau o gasgliadau cenedlaethol.

Ariannwyd yr oriel trwy werthu argraffiad cyfyngedig o brintiau yn seiliedig ar luniadau Kyffin Williams, cyllid gan ei gorff llywodraethu - Cyngor Sir Ynys Môn, rhoddion gan y cyhoedd trwy Ymddiriedolaeth Kyffin Williams a Chyngor Celfyddydau Cymru.