Datganiad mynediad
Bwriad y datganiad mynediad hwn yw rhoi gwybodaeth ychwanegol i ymwelwyr, gyda’r nod o ddisgrifio’r cyfleusterau a’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ar gyfer ein holl ymwelwyr.
Lleolir Oriel Môn yn Llangefni, Ynys Môn.
Yr Oriel yw amgueddfa sirol ac oriel gelf Ynys Môn ac mae’n cael ei rhedeg gan Wasanaeth Dysgu.
Mae’n cynnig rhaglen weithgar o arddangosfeydd dros dro, gweithdai a digwyddiadau arbennig ac arddangosfeydd lled-barhaol yn ymwneud ag agweddau o orffennol cyfoethog Ynys Môn.
Mae siop yn gwerthu amrywiaeth eang o waith celf, crefftau, llyfrau a rhoddion, a caffi trwyddedig sy’n cynnig prydau wedi eu coginio gartref a byrbrydau.
Mae ystafell Tunnicliffe yn ystafell aml-ddefnydd a ddefnyddir i bwrpasau addysgol ond mae modd i gyrff allanol ei llogi ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau a sgyrsiau.
Gwybodaeth gyswllt a chyfryngau cymdeithasol
Cyfeiriad | Oriel Môn, Llangefni, Ynys Môn LL77 7TQ |
Ffôn | 01248 724 444 |
E-bost | orielynysmon@ynysmon.llyw.cymru |
X (Twitter) | twitter.com/orielynysmon |
facebook.com/orielynysmon |
Oriau agor
Dydd Mawrth i Ddydd Sul, 10am tan 5pm
Mynediad am ddim.
Mae Oriel Môn ar agor ar Wyliau Banc, heblaw am 25 Rhagfyr, 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr.
Lle bo hynny’n bosib, gellir gwneud trefniadau ymlaen llaw i grwpiau neu ysgolion ymweld neu i logi Ystafell Tunnicliffe tu allan i oriau agor arferol.
Caffi
Gweithredir y caffi gan Caffi Bach y Bocs, gweler tudalen y caffi am ragor o wybodaeth.
Cludiant cyhoeddus
Mae’r safle bws agosaf ym maes parcio’r amgueddfa.
Cyhoeddir yr amserlenni bysiau diweddaraf gan Traveline Cymru.
Mae’r gorsafoedd trên agosaf yng Nghaergybi a Bangor sydd, yn eu trefn, 12 a 10 milltir o Langefni.
Parcio i’r anabl
Mae 5 o lefydd parcio dynodedig ar gyfer yr anabl ym maes parcio’r amgueddfa, gerllaw mynediad yr adeilad – tua 30m i ffwrdd.
Car
Mae gan yr Amgueddfa faes parcio dynodedig, di-dâl.
Beicio
Mae 4 stand beic yn y maes parcio ac mae Oriel Môn yn agos i lwybr beicio Lôn Cefni. Cliciwch yma i fynd i wefan Beicio Cymru.
Cyrraedd
Mae stepiau neu ramp gerdded gyda chanllaw yn arwain o’r maes parcio i’r brif fynedfa.
Mae’r prif ddrws yn agor i’r brif dderbynfa, sydd wedi ei goleuo’n dda ac mae desg groesawu yn eich wynebu wrth i chi fynd i mewn, gyda’r siop ar yr ochr dde a’r caffi ar y chwith.
Mae dolen sain barhaol wrth y ddesg groesawu. Cynlluniwyd y ddesg yn y dderbynfa i gwrdd ag anghenion gwahanol ddefnyddwyr ac mae mewn dau ran, un sy’n 110cm o uchder a’r llall yn 72cm o uchder.
Mynediad heb stepiau
Mae modd cael mynediad i holl ardaloedd cyhoeddus Oriel Môn heb ddringo stepiau. Mae rampiau graddedig mewn rhai ardaloedd.
Siop
Mae llawr y siop yn wastad. Nid oes modd cyrraedd rhai o’r silffoedd oddi ar eich eistedd, ond mae staff ar gael i helpu. Mae digon o le i symud pramiau a chadeiriau olwyn.
Cyfleusterau toiled
Lleolir toiledau merched a dynion wrth ymyl y brif fynedfa. Darperir peiriant sebon, sychwr dwylo, bin a bin glanweithdra. Mae gorchudd o deils ar y llawr.
Mae toiled y mae modd cael mynediad iddo gyda chadair olwyn, ar gyfer dynion a merched, wedi ei leoli gerllaw’r brif fynedfa. Mae cyfleusterau newid clytiau babi hefyd. Mae’n cynnwys toiled, basn golchi dwylo, sychwr dwylo a bin. Mae canllaw byr wedi’i osod ar y wal a chortyn larwm. Gorchudd finyl sydd ar y llawr.
Lloriau
Mae’r amgueddfa a’r orielau celf i gyd ar un lefel ac nid oes unrhyw risiau na stepiau. Mae llawr pren wedi’i laminadu a charped drwy’r holl adeilad. Mae’r coridorau mynediad i’r amryw orielau ar lethr esmwyth a darperir canllaw. Mae’r holl goridorau a drysau yn yr adeilad yn ddigon llydan ar gyfer pramiau a chadeiriau olwyn.
Arddangosfeydd
Mae’r arddangosfeydd yn yr amgueddfa, prif oriel gelf, Oriel Kyffin a’r llefydd arddangos mewn coridorau yn cynnwys gwaith 2D a 3D ac mae’r holl waith wedi ei labelu â thestun mewn ffont maint 16. Caiff yr holl waith 2D ei hongian ar waliau ar uchder o 145cm i ganol y gwaith er mwyn ei wneud yn hygyrch i gynifer â phosib o ddefnyddwyr.
Mae arddangosfeydd yr amgueddfa yn gyfuniad o arteffactau mewn cypyrddau arddangos gwydr, arddangosfeydd agored a phanelau dehongli sy’n cynnwys testun a delweddau. Mae’r testun ar y panelau mewn ffont maint 16 neu fwy.
Mae modd trefnu a llogi teithiau ymlaen llaw i grwpiau ysgol a dysgu gydol oes.
Mae’r Den Darganfod yn cynnig ardal ymarferol ar gyfer teuluoedd yn cynnwys jig-sos, dillad gwisgo i fyny a gemau. Darperir seddi o wahanol uchder.
Golau
Mae ardal y dderbynfa wedi ei oleuo’n dda ac yn wastad. Fel arfer mae’r oriel a’r amgueddfa’n cael eu goleuo’n dda ac yn wastad, ond ar adegau mae’n rhaid gostwng lefelau golau yn yr ardaloedd hyn oherwydd gofynion cadwraeth arteffactau neu waith celf benodol.
Gwybodaeth bellach
Mae’r holl staff yn derbyn hyfforddiant sy’n cynnwys gofal cwsmer ac ymwybyddiaeth o anableddau.
Seddi
Mae stoliau sy’n plygu ar gael a gellir eu symud o gwmpas. Gofynnwch i aelod o staff am fwy o wybodaeth. Mae meinciau pren yn yr orielau celf.
Cadeiriau olwyn
Mae gan Oriel Môn un gadair olwyn. Er mwyn llogi cadair olwyn ar gyfer eich ymweliad, cysylltwch â ni dros y ffôn neu ar e-bost.
Dolen sain
Mae gennym ddolen sain y gellir ei defnyddio yn siop yr Oriel ac yn y dderbynfa.
Cŵn
Dim ond cŵn tywys, clywed a chymorth sy’n cael eu croesawu a’u caniatáu ym mhob rhan o Oriel Môn. Mae gennym bowlen ddŵr tu allan i’r brif fynedfa ar gyfer cŵn sychedig.
Tynnu lluniau
Croesewir tynnu lluniau yn Oriel Môn, yn yr amgueddfa ac weithiau yn yr orielau celf, ond dim ond ar gyfer defnydd personol. Gofynnwch i aelod o staff os ydych yn ansicr. Weithiau ni chaniateir tynnu lluniau o arddangosfeydd neu waith celf oherwydd rheolau hawlfraint. Ni chaniateir defnyddio treipod na fflach o gwbl.
Wifi
Mae gennym wifi am ddim yn Oriel Môn.