
Orielau
Ar draws ein horielau amrywiol rydym yn falch o arddangos gweithiau celf sy’n dathlu Ynys Môn; ein tirwedd, natur, treftadaeth ac, wrth gwrs, ei hartistiaid.
Oriel Kyffin WilliamsMae'r Oriel yn falch iawn o alw ei hun yn gartref i 'Oriel Kyffin Williams', oriel a neilltuwyd ar gyfer arlunydd mwyaf poblogaidd Cymru, Syr Kyffin Williams a fu farw yn 2006.
Oriel Charles TunnicliffeTeyrnged barhaol i un o brif arlunwyr bywyd gwyllt yr ugeinfed ganrif - gwaith Charles F. Tunnicliffe.
Oriel Hir--------------------------------------------------
AmgueddfaFel amgueddfa achrededig, mae Oriel Môn yn dal casgliad hynod ddiddorol ac amrywiol o wrthrychau ac arteffactau.
Stiwdio GelfMae'r gofod hwn yn estyniad o'n siop anrhegion, mae ein micro-arddangosfeydd chwarterol yn arddangos ac yn hyrwyddo gwaith pedwar artist sy'n gweithio mewn amrywiol gyfryngau.
Oriel Gelf--------------------------------------------------