Neidio i'r prif gynnwys
Lluniad o tai a coed wedi ei brintio ar bapur.
18 Ionawr - 2 Mawrth

Draw Dros y Don

Dyma gasgliad personol gan deulu o artistiaid o Wcráin.

Arddull

Amrywiaeth

Cyfrwng

Cyfryngau Cymysg

Dyma gasgliad personol gan deulu o artistiaid o Wcráin. Yn y casgliad hwn mae Alla Chakir, Roman Nedopaka ac Oleksandra Davydenko yn rhannu eu profiad o fyw yng ngogledd Cymru.

Mae’r casgliad fel ffenestr liw sy’n troi’r golau sy’n disgleirio drwyddi yn enfys o liwiau. Gwahanol emosiynau, gwahanol arddull a gwahanol dechnegau.

Mae’r prosiect ‘Draw Dros y Don’ yn adlewyrchu ar brofiad emosiynol y teulu yn ystod y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf.