
14 Hydref - 8 Chwefror
Gareth Owen
Dyfod yr Hyn Ydwyf
Dyfod yr Hyn Ydwyf
Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys torluniau leino o bortreadau o unigolion sydd wedi dylanwadu ar yr artist a’i wneud yr hyn ydyw.
14 Hydref tan 8 Chwefror 2026
Artist
Daw’r dylanwadau yn bennaf o feysydd megis gwleidyddiaeth, artistiaid gweledol, pobl sydd wedi cyfrannu at y diwylliant Cymreig, beirdd a llenorion.Dywedodd Gareth, “gyda rhai o’r portreadau gall honni rhyw adnabyddiaeth a chysylltiad personol, gydag eraill mae eu dylanwad yn fwy casgliadol ac yn rhan o werthfawrogiad mwy torfol”.Gyda phob portread ceir delwedd mwy amwys ag englyn i gyd-fynd â’r gwrthrych, sy’n adlewyrchu hoffter Gareth Owen o gyfuno gair a llun.
