
Jane Paice
Elfennau
'Archwiliais dreftadaeth gyfoethog diwydiannau llechi a chopr Cymru a'u cysylltiadau annatod â’r arfordir.
15 Hydref 2024 tan 16 Chwefror
Artist

Bywgraffiad
Astudiais gelf yn Norfolk a chael diploma mewn paentio olew. Rwy’n cael yr ysbrydoliaeth ar gyfer llawer iawn o fy ngwaith gan wychder y tir a’r môr sy’n amgylchynu fy nghartref ar Ynys Môn. Rwy’n angerddol dros gelf, dyma fy llawenydd a’m galar. I mi, mae’n ffordd o gofio.....ac anghofio.
Ar gyfer yr arddangosfa hon, rydw i wedi edrych ar dreftadaeth gyfoethog y diwydiant copr a’i gysylltiadau annatod a’r arfordir. Rydw i wedi ymchwilio i gyfosodiad moroedd stormus, deinamig a llonyddwch aflonydd yr ogofau tanddaearol. Byddaf yn ehangu ar y thema yma ar gyfer fy arddangosfa unigol, ’Elfennau’ yn Oriel Môn yn ddiweddarach eleni.
Ar gyfer yr arddangosfa hon dywedodd Jane Paice 'Archwiliais dreftadaeth gyfoethog diwydiannau llechi a chopr Cymru a'u cysylltiadau annatod â’r arfordir. Rydw i wedi edrych ar y cyfosodiad rhwng moroedd stormus, deinamig a thawelwch aflonydd ogofau dyfnion o dan y ddaear.
Os edrychwch yn ofalus, efallai y gwelwch olion adfeilion, offer a gafodd eu gadael neu ddelweddau annaearol o bobl a fu yma o'n blaenau.
Mewn rhai o'r paentiadau rydw i'n gadael i'r gynulleidfa benderfynu p'un a ydynt yn edrych ar y tonnau, ar ogof neu ar wythïen hir anghofiedig o gyfoeth o dan y ddaear.'
Arddangosion
Oriel o 4 arddangosion