Neidio i'r prif gynnwys
darlun haniaethol.
4 Gorffennaf - 6 Medi

Catrin Williams

Llwybr Amser

Llwybr Amser

Catrin Williams - golygfeydd, bywyd llonydd, a darnau haniaethol.

Arddull

Multi

Cyfrwng

Mixed media

Mae’r arddangosfa hon yn ddathliad o fywyd creadigol Catrin wrth gyrraedd 60 oed fel artist proffesiynol. Mae yna amrywiaeth eang iawn yn yr arddangosfa hon - golygfeydd, bywyd llonydd, a darnau mwy haniaethol - gweithiau mewn ffrâm a rhai ar gotiau a chlogynnau. Llawer iawn o ddarnau newydd sbon ac ambell ddarn yn ymestyn yn ôl dros 25 mlynedd. Dywedodd Catrin “Mae wedi bod yn gyfle gwych i mi arbrofi mewn lliw a deunyddiau a chefais brofiad anhygoel o weithio gyda’r cerddor Pat Morgan (Datblygu) mewn cydweithrediad gyda chwmni’r Frân Wen”.

Darlun haniaethol o angylion dros dro.
Darlun haniaethol o canu yn y blodau.
Darlun haniaethol o parti'r llongwyr.
Darlun haniaethol o te Cymreig