Neidio i'r prif gynnwys
Darlun o Gwynfor Lloyd Griffiths.
Darlun o Jade yn eistedd yn edrych i'r chwith gyda adar yn y cefndir ar bapur wal.
3 Mai - 15 Mehefin

Celia Hume

Pobl Môn

Pobl Môn

Mae'r gwaith gan Celia Hume yn gasgliad sydd yn dathlu pobl môn, nawr ac yn y gorffennol, drwy gyfrwng batic.

Arddull

Batic cyfoes

Cyfrwng

lliwiau procion, cwyr ar gotwm

Bywgraffiad

Enillais radd mewn hanes celf a chelfyddyd gain, a tra’r o’n i’n dysgu enillais radd arall mewn celfyddyd weledol a dylunio. Darlunio yw fy arbenigedd a derbyniais ganmoliaeth uchel yng Nghystadleuaeth Llyfrau Plant MacMillan gan fynd ymlaen i greu delweddau ar gyfer cylchgronau a chloriau llyfrau. Yn ystod y cyfnod clo dechreuais arbrofi â thechnegau batic.

Mae’n gyfrwng hynod ddiddorol sy’n cynnig pob math o bosibiliadau. Rydw i wedi datblygu fy steil unigryw fy hun, sy’n canolbwyntio ar bortreadaeth.

Mae fy mhortreadau wedi cael eu harddangos gan Sefydliad Brenhinol yr Arlunwyr Portreadau, Cymdeithas yr Arlunwyr Benywaidd, Academi Frenhinol y Cambrian ac INGDiscerning Eye.

Mae pobl yn dweud bod fy ngwaith yn cyfleu ryw “ddwyster tawel”. Mae’r dwyster hwn yn deillio o fy ymgais i ddeall bregusrwydd yr enaid dynol ac rydw i’n gwneud fy ngorau i gyfleu ysbryd yr unigolyn.

Mae’r paentiadau wedi cael eu creu â chwyr a lliw ac maent yn rhoi cipolwg i ni o drigolion amrywiol Ynys Môn. Mae pob portread yn adlewyrchu cymeriad yr unigolyn ac yn cyfleu eu rhinweddau corfforol yn ogystal â’u stori bersonol a’u cyswllt â’r tir. 

Mae’r patrymau cymhleth, lliw, gwead a thôn yn dathlu trigolion brith yr ynys. Mae’r clipiau sain yn ychwanegu at y darnau ac yn rhoi cyfle i ymwelwyr glywed, yn ogystal â gweld y personoliaethau y tu ôl i’r paentiadau.

Mae’r portreadau batic, cyfweliadau sain a sioe sleidiau yn creu profiad amlsynhwyraidd sy’n dathlu hunaniaeth ac ysbryd cymunedol Ynys Môn. Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i adlewyrchu ar bwysigrwydd celf a straeon wrth warchod ein treftadaeth ddiwylliannol.

Ffotograff o Celia Hume yn eistedd yn ei stiwdio
Ffotograff o agoriad arddangosfa Celia.