Neidio i'r prif gynnwys
Darlun topograffig o bobl yn sefyll wrth lan y mor.
19 Gorffennaf - 1 Mawrth

Ynys Môn a'r Traddodiad Topograffig

Mae’r arddangosfa hon yn cyflwyno casgliad cynhwysfawr o olygfeydd topograffig o Ynys Môn, gan gynnwys cymynrodd George Lees a chasgliad yr Oriel.

Arddull

Multi

Cyfrwng

Mixed media

Yn ystod y 17eg a 18fed ganrif, roedd y Daith Fawr yn gyfle i aristocratiaid ddarganfod rhyfeddodau Ewrop a thu hwnt. Nid oedd ffotograffiaeth yn bodoli yn ystod y cyfnod hwn, a phaentio a darlunio oedd yr unig ffordd i gadw cofnod o olygfeydd. Roedd celf tirlun ar ei anterth, ac roedd paentiadau’n cael eu troi yn brintiadau’n aml i’w defnyddio mewn llyfrau canllaw. Yn ystod y 19eg ganrif, effeithiodd aflonyddwch gwleidyddol ar y Daith Fawr Ewropeaidd, a phenderfynodd nifer o artistiaid deithio hyd a lled y DU. Roedd Cymru’n leoliad poblogaidd iawn, gydag Ynys Môn yn denu sylw llawer o’r artistiaid hyn. Mae’r arddangosfa hon yn cyflwyno casgliad cynhwysfawr o olygfeydd topograffig o Ynys Môn, gan gynnwys cymynrodd George Lees a chasgliad yr Oriel.

Engrafiad o harbwr Amlwch
Harbwr Amlwch Roedd William Daniell (1769-1837) yn arlunydd tirwedd a môr ac yn argraffydd cynhyrchiol. Yn ystod hafau 1813 a 1814 cychwynnodd ar brosiect uchelgeisiol – A Voyage Around Great Britain. Ei fwriad oedd teithio’r arfordir, gan beintio a darlunio safleoedd pwysig ac arwyddocaol. Ysgrifennwyd y testun gan Richard Ayton, dramodydd ac awdur, a dechreuasant ar eu taith yng Nghernyw. Ar ôl cwblhau gwaith ar gyfer y ddwy gyfrol gyntaf, gan gyrraedd arfordir gorllewinol yr Alban, byddai Daniell ac Ayton yn gwahanu, a gadawyd yr artist i orffen y prosiect ar ei ben ei hun. Mae’r wyth cyfrol yn cynnwys dros 300 o engrafiadau acwatint, pob un wedi’i liwio â llaw, ac fe’u cyhoeddwyd rhwng 1814 a 1825. Roedd goleudai, cychod, a phobl yn gweithio ar yr arfordir i gyd o ddiddordeb i Daniell, a chafodd Ynys Môn ei chyfran deg o sylw. Rhoddwyd y saith golygfa hyn gan Mair a George Lees.
Engrafiad o South View of Holyhead Collegiate Church
South View of Holyhead Collegiate Church Engrafiad wedi’i liwio â llaw cyhoeddwyd 1770au darlunwyd rhwng 1725 a 1742 gan Samuel a Nathaniel Buck rhoddwyd gan Mair a George Lees.
Engrafiad o South West View of Penmon Priory
South West View of Penmon Priory Engrafiad wedi’i liwio â llaw cyhoeddwyd 1770au darlunwyd rhwng 1725 a 1742 gan Samuel a Nathaniel Buck rhoddwyd gan Mair a George Lees.
Engrafiad o The Market Place of Holyhead, Anglesea
The Market Place of Holyhead, Anglesea Engrafiad wedi’i liwio â llaw darlunwyd gan Francis Grose yn 1769 engrafwyd gan Samuel Sparrow rhoddwyd gan Mair a George Lees Cyhoeddwyd y print hwn, wedi'i ysgythru ar gopr, yn The Antiquities of England and Wales, gan Francis Grose (1731-1791). Cafodd ei ryddhau mewn sawl cyfrol rhwng 1773 a 1778 ac roedd yn cynnwys printiau gan wahanol ysgythrwyr, i gyd yn seiliedig ar luniadau Grose. Mae llawer o'r adeiladau a ddangosir yn y cyfrolau wedi’u colli, gan ei wneud yn gofnod hanesyddol pwysig.