Aled Lewis

Bywgraffiad
Dechreuodd fy angerdd am ffotograffiaeth pan o’n i’n ifanc iawn (amser maith yn ôl!), pan gefais i gamera Kodak Electralite 10 yn anrheg pen-blwydd pan oeddwn i’n 10 oed. Yn fuan, symudais ymlaen at gamera Olympus AF-10 35mm compact, a byddwn yn edrych ymlaen yn arw at ddatblygu’r lluniau ac yn aros yn eiddgar iddynt gyrraedd drwy’r post!
Heb amheuaeth, uchafbwynt fy nhaith ffotograffiaeth oedd ennill Gwobr y Ffotograffydd Tirluniau yng Ngwobrau Ffotograffiaeth Prydain 2022, gyda’m llun o fynydd Tryfan, sydd i’w weld yma yn yr arddangosfa. Cefais gymeradwyaeth yng nghystadleuaeth Ffotograffydd Tirluniau’r Flwyddyn yn yr un flwyddyn. Mae fy lluniau hefyd wedi’u cynnwys mewn amrywiol gylchgronau gan gynnwys y Digital Photography Magazine, Country Life Magazine, Golwg, ac ar glawr blaen cylchgrawn y Sunday Times.
Fy angerdd go iawn yw tynnu lluniau o dirluniau. Rydw i’n byw mewn rhan brydferth o Ogledd Cymru ac mae hyn yn rhoi cyfle i mi dynnu lluniau’r tirluniau mwyaf anhygoel. Mae gen i ddewis enfawr o’m cwmpas – o fynyddoedd a dyffrynnoedd Eryri, sy’n llawn ysbrydoliaeth, i forliniau garw Gwynedd ac Ynys Môn.