Anwen Buckland

Bywgraffiad
Cefais fy ngeni ar Ynys Môn, ac rydw i wedi byw yn Llangefni ar hyd fy oes. Ers yn blentyn ro’n i wrth fy modd arlunio ond wnes i ddim astudio celf ar ôl gadael yr ysgol.
Ar ôl gadael y coleg enillais gymhwyster Nyrsio Deintyddol a chefais swydd mewn deintyddfa lle bues yn gweithio fel Nyrs Ddeintyddol a derbynnydd am 27 mlynedd.
10 mlynedd yn ôl penderfynais gofrestru ar gyfer dosbarthiadau celf, lle dysgais sut i baentio, paentio â dyfrlliw ac arlunio. Fe wnaeth hyn ail-danio fy mrwdfrydedd tuag at gelf a dydw i ddim wedi stopio paentio ers hynny.
Erbyn hyn rydw i wedi ymddeol a’r hyn sy’n ysbrydoli fwy na dim yw adeiladau a thirwedd hardd yr Ynys a Gogledd Cymru.