Bill Kneale

Bywgraffiad
Rwy’n paentio mewn ffordd oddrychol, gan gydio golygfeydd sy’n ddiddorol yn weledol. Rwy’n braslunio ac yn tynnu lluniau ar ddechrau’r broses ddatblygu, ac yna mae fy ngwaith gydag acrylig yn esblygu, a hynny drwy gwestiynu a gwneud newidiadau. Mae hyn yn digwydd ar y safle wrth weithio yn yr awyr agored neu yn fy stiwdio. Byddaf fel arfer yn gadael ychydig o’r gwaith paentio dechreuol am ei fod yn cyfoethogi’r gwaith ac yn dangos y broses gyfan.
Ar ôl cymhwyso mewn celf a dylunio gweithiais fel dylunydd cynnyrch yn creu strwythurau gweithredol. Daliais ati hefyd i addysgu celf mewn dosbarth nos. Yna, symudais i fyd addysg, ac arloesi mewn celf a dylunio integredig yng Nghlwyd. Yna, roeddwn yn addysgu am fywyd gwyllt ar gyfer yr RSPB.
Pobl sydd wrth wraidd celf – ein teimladau am liwiau, siapiau, rhythmau a llinellau yn ein byd go iawn a dychmygol, a’n hymateb goddefol a gweithredol.
Mewn byd mor gymhleth, mae rhoi paent ar gynfas yn ffordd reddfol o fynegi ein hunain, ac er ei fod weithiau’n rhwystredig ac anodd, mae bob amser yn werth chweil. Mae pob darn rwyf wedi ei greu yn unigryw ac nid oes yr un yn gopi, yn brint nac wedi ei drin yn ddigidol.