Callaghan Creatives
Bywgraffiad
Mae celf yn ail yrfa i’r ddau ohonom, ac yn daith yr ydym wedi ymgymryd â hi gyda’n gilydd:
Cawn y rhan fwyaf o’n hysbrydoliaeth o fyd natur, gan geisio hanfod ein pynciau yn eu gwahanol hwyliau ac archwilio ymatebion dynol i anferthedd byd natur.
Rydym yn gweithio yn yr awyr agored yn bennaf gyda deunyddiau naturiol o ffynonellau lleol. Mae’r broses o wneud yn ddeialog rhwng artist a chyfrwng ac yn teimlo fel gweithred o gyd-greu.
Gan gymryd yr amser i agor y synhwyrau, cofleidio'r profiadau a'r emosiynau sy'n codi mewn eiliadau bythol o gysylltiad: syllu, cyffwrdd, teimlo ac yn y pen draw cysylltu ag ystyr a phwrpas dyfnach - mae hyn yn ganolog i'n celf.
Susanna: 'Pan dw i'n creu, dw i'n cael fy ysbrydoli gan naws neu ffurf sy'n dal fy sylw. Mae fy ngwaith wedi'i lywio gan natur, ond nid yw wedi'i ddiffinio ganddi.'
Phil: 'Mae fy ngwaith yn ymwneud â phurdeb ffurf, gan weithio gydag elfennau sylfaenol stori. Gan dynnu ysbrydoliaeth o ddelweddau archdeipaidd y Tarot, mae'r darnau hyn yn ymdrin â Syniad yn ei ddull mynegiant mwyaf coeth.'