Neidio i'r prif gynnwys

Frankie Makin

Portread o Frankie Makin

Bywgraffiad

Cefais fy ngeni a’m magu yn Cumbria ac roedd corsydd Ardal y Llynnoedd ar garreg y drws. Ar ôl ennill gradd mewn Ffasiwn a Thecstilau mi es i weithio i’r diwydiant dylunio Gweuwaith cyn dod yn athrawes gynradd yn Swydd Gaerlŷr.

Symudais i Ynys Môn bedair mlynedd ar ddeg yn ôl a dechreuais ymddiddori yn y grefft o ffeltio â nodwydd. Rydw i’n creu darnau 2D a 3D gan ddefnyddio nodwyddau ffeilio i roi haenau o wlân ar gefndir ffelt. Mae’r lluniau wedi cael eu hysbrydoli gan y tirluniau a’r morluniau prydferth o’m cwmpas ac wrth gwrs wynebau’r defaid, sy’n llawn cymeriad.