Gwyn Parry

Bywgraffiad
Rwy'n artist ac yn awdur sy'n dod yn wreiddiol o Ynys Môn ond rwyf bellach yn byw ynNyffryn Nantlle, Gwynedd. Astudiais gelf a dylunio yng Ngholeg Celf Casnewydd yn ystod y1980au a gweithiais fel dylunydd graffig yng Nghaerdydd a Dulyn, Iwerddon.Rwyf wedi bod yn darlunio ac yn peintio yn chwareli Dyffryn Nantlle, sef Dorothea a Phen yrOrsedd a'r cyffiniau, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae gen i ddiddordeb mewn golau, awyrgylch a naratif. Mae gen i ddiddordeb yn y modd y mae’r hen dirweddau diwydiannol hyn yn cael eu cymryd yn ôl yn raddol gan natur ac rwy’n ceisio portreadu petho’r rhyfeddod, yr hanes a’r harddwch o fewn y tirweddau llechi hyn.