Ieuan Williams

Bywgraffiad
Ganwyd Ieuan Williams ym Mhenbedw (Birkenhead), a symudodd i Fôn i ddilyn gyrfa mewn dylunio graffeg a dylunio arwyddion.
Astudiodd yng Ngholeg Celf Caer a Choleg Celf Caerdydd, gan gwblhau gradd BA Anrhydedd.
Mae Ieuan wedi cynnal nifer o arddangosfeydd llwyddiannus ledled Cymru, o Ynys Môn lawr i Gaerdydd, ac mae ei baentiadau i’w gweld yn:
Yr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.