Jenny Holland

Bywgraffiad
Mae Jenny yn byw yn Sir y Fflint, Gogledd Cymru. Mae’n peintio gydag olew ac acrylig ar gynfasau gan ddefnyddio brwshys a chyllyll.
Mae Jenny wedi cynnal nifer o arddangosfeydd unigol, wedi rhannu arddangosfeydd ac wedi cynnal Arddangosfeydd Haf gyda’i gwaith bellach wedi cyrraedd yr UE, UDA, DU, Ynys Manaw ac Iwerddon.
Er iddi gael ei geni a’i haddysg yn Llundain, mae Jenny wedi byw yn y gogledd ers 1972, yn ardal y Wirral gyntaf ac yna yng ngogledd Cymru yn Brynford, Rhuthun gan symud ei chartref a’i stiwdio i Sychdyn.
Mae hyn yn rhoi cyfle iddi beintio o amgylch gogledd Cymru, yn bennaf ym Mhen Llŷn ac Ynys Môn a bydd hefyd yn manteisio ar bob cyfle i fraslunio yn Ardal y Llynnoedd, Cernyw ac arfordir Gogledd Swydd Efrog.
Am flynyddoedd lawer roedd Jenny yn berchen ar oriel celfyddyd gain, fframio lluniau ac argraffu giclée. Yn ystod y cyfnod hwn bu’n dysgu ac yn arddangos yn fewnol ac mewn clybiau celf.
Wedi ymddeol o’r byd busnes ers tro, mae Jenny yn peintio ar gyfer arddangosfeydd ac yn mwynhau yn bennaf - golygfeydd arfordirol, ffermydd, harbyrau a chychod. Ar ôl rhoi'r gorau i beintio en plein air mae Jenny yn parhau i gerdded a braslunio a dianc i'w stiwdio yn ystod tywydd garw yn aml.
www.jennyholland.artweb.com