John Cope
Bywgraffiad
Dwi’n artist sy’n byw yng Nghedio, pentref bach yng nghalon Pen Llyn. Dwi’n arbenigo mewn ffigyrau dynol, lluniadu natur a phortreadau cyfoes.
Dwi’n mwynhau arbrofi gyda gwahanol gyfryngau, yn benodol siarcol, pastel, dyfrlliw a dalen aur, gan amlaf yn cymryd ysbrydoliaeth o’r byd o’n nghwmpas, wynebau llawn cymeriad ac anifeiliaid. Dwi’n arbennig o hoff o gyfleu enaid a chymeriad, a dwi bob amser yn chwilio i greu emosiwn a theimlad yn fy ngwaith.