Judith Donaghy

Bywgraffiad
Fe’m ganed yn Frodsham, tref fach ddymunol iawn yn Swydd Gaer. Hyfforddais fel dylunydd tecstilau cyn mentro i fyd celfyddyd gain. Mae fy mhaentiadau olew lled-haniaethol yn cyfleu fy nghariad tuag at natur, lliw a gwead. Maent wedi’u hysbrydoli gan yr arfordir, cefn gwlad a blodau.
Rydw i’n creu’r darnau o’m cof a thrwy edrych ar frasluniau. Byddaf yn canolbwyntio ar brofiadau y gall pawb uniaethu â hwy. Ni fyddaf yn paentio yn yr awyr agored yn aml iawn. Mae’n well gen i ddychwelyd i’r stiwdio i ddehongli’r darluniau yr ydw i wedi’u creu yn fy meddwl mewn ffordd unigryw ac artistig gan ddefnyddio paled o liwiau sydd wedi’u dewis yn arbennig. Yr unig eithriad ydi fy mhaentiadau o flodau lle byddaf yn amgylchynu fy hun â blodau ac yn eu trefnu mewn gwahanol jariau a fasys.
Rydw i wedi bod yn gwneud hyn ers i mi dderbyn cymaint o flodau hyfryd gan ffrindiau a theulu pan gollais fy mab. Doeddwn i ddim eisiau eu hanghofio ac felly dechreuais eu paentio. Ar ôl postio llun o un o’r paentiadau ar y cyfryngau cymdeithasol roeddwn wedi synnu gyda’r ymateb a gefais. 6 mlynedd yn ddiweddarach rydw i’n dal i fwynhau paentio blodau tymhorol ac maent ar werth mewn orielau ledled Cymru a Lloegr.
Mae Gogledd Cymru, Ynys Môn yn benodol, bob amser yn fy ysbrydoli. Mae ei thraethau, y môr a’r awyr a’i thirwedd garw bob amser yn newid ac felly mae ganddi bob amser rywbeth gwahanol i’w gynnig. Mae’r themâu yma’n ymddangos dro ar ôl tro yn fy ngwaith. Rydw i’n gobeithio bod fy ngwaith yn dod â llawenydd i bawb ac yn gwneud iddynt deimlo’n dda.