Lynda Waggett

Bywgraffiad
Rydw i wedi bod yn artist ers fy mhlentyndod, yn ymarfer gwahanol arddulliau a chyfryngau, yn arbrofi gyda 2D a 3D, o fywluniadau o gerameg a ffotograffiaeth.
Mae celf fel bywyd, mae profiad newydd bob dydd, rhai pethau prydferth, lliwgar a thawel, dro arall yn dywyll ac annisgwyl.
Felly, mae fy ngwaith yn gymysgfa eclectig, weithiau yn deillio o fy nychymyg a dro arall o ddelweddau y byddaf yn eu dal rownd pob congl. Does dim byd yn well na mynd am dro ar hyd ffordd wledig neu ar hyd glan afon, gan wrando ar y adar yn canu, dim ond fi, fy nghamera a fy llyfr braslunio.