Niki Pilkington

Bywgraffiad
Mae Niki Pilkington yn ddarlunydd Cymraeg sydd wedi symud yn ôl i Gymru’n ddiweddar ar ôl gweithio am gyfnod ym Mharis, Efrog Newydd, Los Angeles a Llundain. Mae Niki’n creu darluniadau ffasiwn bywiog, sy’n cael eu hysbrydoli gan dueddiadau, sy’n cyfeirio at ei hetifeddiaeth Gymreig ac yn defnyddio ymadroddion ac idiomau Cymraeg. Mae ei harddull chwareus, sydd eto’n fanwl tu hwnt, yn bwydo oddi ar ei hangerdd i wneud bywyd ychydig yn fwy breuddwydiol, gan ganolbwyntio’n bennaf ar liw, ymadroddion, ffordd o fyw, ffasiwn a’r bobl sy’n ei wisgo. Mae wedi bod yn ddarlunydd llawn amser ers graddio o’r brifysgol yn Llundain yn 2009 gyda BA Dosbarth Cyntaf. Ymhlith ei rhestr o gleientiaid mae Nike, Google, TOPSHOP, MTV a Syr Paul McCartney, ac oherwydd ei phoblogrwydd ar-lein (gweler instagram @nikipilkington), mae’n llwyddo i werthu ei phrintiau a darnau gwreiddiol mewn siopau ac ar-lein ledled y byd.