Rachel Stewart

Bywgraffiad
Mae Rachel Stewart yn arlunydd tirluniau olew o Lysfaen, gogledd Cymru. Derbyniodd ei addysg celf yng Ngholeg Celf Bangor.
Mae ei gwaith yn arddangos ei chariad o Gymru wledig ac arfordir Cymru. Datblygodd hyn wrth iddi dyfu i fyny ym Menllech, Ynys Môn a Bae Colwyn.
Gan weithio yn ei stiwdio oddi ar luniadau arsylwadol a brasluniau dyfrlliw bydd yn paentio ag egni o’r llygad i’r galon i’r tir. Bydd yn gosod lliwiau olew gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau. Mae dychwelyd i arddangos yma yn Oriel Môn yn golygu llawer iddi: “Gobeithio y byddwch yn gweld ysbryd prydferth y tir hynafol hwn yng Nghymru o fewn fy lluniau”.