Sgip i'r prif gynnwys

Oriel Kyffin Williams

Oriel Kyffin Williams

Mae'r Oriel yn falch iawn o alw ei hun yn gartref i 'Oriel Kyffin Williams', oriel a neilltuwyd ar gyfer arlunydd mwyaf poblogaidd Cymru, Syr Kyffin Williams a fu farw yn 2006.

Fe roes Kyffin Williams dros 400 o weithiau celf gwreiddiol i Oriel Môn trwy gydol ei oes, yn amrywio o frasluniau i luniadau a phaentiadau olew mawr. Agorodd yr oriel hon ei drysau i'r cyhoedd yn 2008 ac ers hynny mae wedi arddangos cannoedd o weithiau celf gan yr arlunydd ei hun, yn ogystal â gwaith gan arlunwyr rhyngwladol pwysig eraill. Mae Oriel Kyffin Williams yn cynnal dwy arddangosfa'r flwyddyn. Er ein nod yw arddangos detholiad o waith syr Kyffin ym mhob arddangosfa, nid ef fel arlunydd yw canolbwynt yr arddangosfeydd hyn bob tro. Cefnogodd Kyffin Williams lawer o arlunwyr yn ystod ei fywyd a'i nod wrth ymgyrchu dros Oriel Kyffin Williams oedd arddangos gwaith arlunwyr eraill yn ogystal â'i waith ei hun, a hynny er mwyn ysbrydoli a chyffroi.

Cynhelir Gwobr Arlunio bob dwy flynedd Syr Kyffin Williams yma hefyd, cystadleuaeth arlunio genedlaethol a sefydlwyd gan Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams fel teyrnged i'r gefnogaeth a roes Kyffin i arlunwyr a'r gwerth a roes i sgiliau lluniadu.

Casgliad Kyffin Williams Darlith Flynyddol Kyffin Williams
Nwyddau yn y siop
Mae printiau a nwyddau ar gael yn y siop