Neidio i'r prif gynnwys
llyfr o gardiau te Brooke Bond yn seiliedig ar fywyd gwyllt Awstralia na chafodd ei gyhoeddi.

Casgliad celf Oriel Môn a rhai o’r darnau diweddaraf

Cyhoeddwyd: 13 Tachwedd 2025

Agorwyd Oriel Môn ym 1991, ac mae ei chasgliad celf wedi tyfu’n raddol ers hynny.

Drwy gyllid grant rydym wedi llwyddo i brynu rhai paentiadau, ond mae’n casgliad wedi tyfu’n bennaf oherwydd rhoddion, ac ers fy nghyfnod i yma rydw i wedi cael y fraint o weithio efo pobl hael iawn, sydd wedi ychwanegu darnau celf anhygoel i’r casgliad.

Nid yw’r haelioni hwn wedi arafu dim, ac ers 2020 rydym wedi derbyn nifer dda o ddarnau newydd. Uchafbwynt i mi yw casgliad Leonard McComb, gyda diolch i rodd hael gan chwaer y diweddar artist, Anne Draycott. Mae’r casgliad yn cynnwys 19 darn - paentiadau olew a gwaith ar bapur - a’r cyfan wedi eu gwneud ar Ynys Môn. Roedd y casgliad yn sail i arddangosfa o waith yr artist a gynhaliwyd yn Oriel Kyffin Williams yn ddiweddar. Yn garedig iawn, fe wnaeth Anne hefyd ein helpu i fframio rhai o’r paentiadau, mewn arddull debyg i’r hyn yr oedd ei diweddar frawd yn arfer ei ddefnyddio.

Rydym hefyd wedi derbyn rhoddion unigol sy’n cyd-fynd â darnau eraill yn y casgliad. Mae’r rhain yn cynnwys paentiad o Wiwer Hedegog Awstralaidd gan Charles Tunnicliffe, rhodd gan Rees Roberts. Credwn fod y darn yn rhan o ymchwil gan yr artist ar gyfer llyfr o gardiau te Brooke Bond yn seiliedig ar fywyd gwyllt Awstralia na chafodd ei gyhoeddi.

paentiad o Wiwer Hedegog Awstralaidd gan Charles Tunnicliffe
llyfr o gardiau te Brooke Bond yn seiliedig ar fywyd gwyllt Awstralia na chafodd ei gyhoeddi.

Yn gynnar yn yr haf, derbyniom baentiad olew gan y diweddar John Ricks, a oedd wedi cael ei baentio ganddo pan oedd yn fyfyriwr yn Ysgol Highgate, Llundain yn y 1950au dan oruchwyliaeth Kyffin Williams. Yr hyn sy’n gwneud y darn hwn yn fwy arbennig fyth yw bod Kyffin wedi rhoi darn o gynfas i’w ddisgybl ymarfer arno, ac ar gefn y cynfas hwnnw mae paentiad olew o gi defaid. Rydym yn bwriadu ei fframio fel bod modd gweld y naill ochr i’r cynfas a’i gynnwys mewn arddangosfa fawr o waith Kyffin yn gynnar yn 2026.

 

Paentiad olew gan y diweddar John Ricks
Paentiad olew o gi defaid gan Kyffin Williams ar gefn gynfas John Ricks

Yn 2024 derbyniom gasgliad sylweddol o brintiau hanesyddol o dopograffi’r ynys, rhodd gan Mair Lees a’i diweddar ŵr, George. Maent wedi cael eu catalogio a’u cadw erbyn hyn ond mae llawer ohonynt yn cael eu harddangos ar hyn o bryd yn ein casgliad dros dro, Ynys Môn a’r Traddodiad Topograffig daw i ben 01/03/26.

Yn ddiweddar rydym wedi derbyn hunan bortread olew gan Ed Povey, rhodd gan Elizabeth Llanddwyn Jones, a gwaith celf clytwaith gan Edrica Huws, rhodd gan ei merch, Catharine Huws Nagashima. Gellir gweld y ddau ddarn yn yr arddangosfa O’r Casgliad yn Oriel Kyffin Williams daw i ben 25/01/26.

Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyflwyno gweithiau celf ac arteffactau i Oriel Môn. Maent yn helpu i gyfoethogi ein casgliadau a’n galluogi i greu rhaglenni arddangos cyffrous, sydd bob amser yn newid.