Neidio i'r prif gynnwys
Llun o fowld ar gyfer pen cleddyf.

Hanes cyfoethog ac archeolegol Ynys Môn yn Oriel Môn

Cyhoeddwyd: 6 Mehefin 2025

Fy enw i yw Arwyn Owen - rydw i’n un o drigolion Môn ac yn gweithio fel myfyriwr PhD ail flwyddyn ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion fel rhan o fy hyfforddiant galwedigaeth gyda diolch i nawdd gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Consortiwm Gogledd Orllewin Lloegr (NWCDTP).

Rydw i wrth fy modd efo hanes yr Ynys, ac mae fy noethuriaeth yn canolbwyntio ar ddod o hyd i safleoedd archeolegol ar yr ynys sydd heb gael eu cofnodi eto drwy archwilio olion cnydau (siapiau od/tir wedi colli’i liw yn sgil newidiadau i lefelau lleithder y tir) yn ogystal â gwrthgloddiau gan ddefnyddio offer LiDAR (system sy’n defnyddio laserau sy’n cael eu hanelu i’r ddaear o awyren i fesur arwynebedd y ddaear er mwyn cynhyrchu delwedd 3D). Rydw i wedi dod o hyd i nifer o bethau diddorol a byddaf yn eu rhannu pan fydd fy nhraethawd ymchwil yn cael ei gyhoeddi ganol 2027.

Mae’r pwnc yr ydw i’n ei astudio yn cyd-fynd yn berffaith â nodau Oriel Môn sef gwarchod a hyrwyddo hanes cyfoethog ac archeolegol Ynys Môn, i gynulleidfaoedd lleol a thu hwnt. Yn ystod fy nghyfnod yn Oriel Môn dysgais sut i drin eitemau, curadu cynnwys arddangosfeydd (yn cynnwys ysgrifennu labeli addas!), a phopeth am weithio yn y sector treftadaeth fodern. A chefais innau gyfle i rannu fy ymchwil diweddaraf gyda’r amgueddfa a fydd o gymorth wrth ddehongli eitemau yn y dyfodol a chreu eitemau addysgol. Rydw i hefyd wedi gwneud cysylltiadau anhygoel a fydd yn fy helpu yn ystod fy ngyrfa. Fe wnes i fwynhau gweithio ar yr arddangosfa newydd gan Leonard McComb yn oriel Kyffin, a deall mwy am y broses gymhleth o fenthyg eitemau o gasgliadau o bob cwr o Gymru a Lloegr.

Hyd yma rydw i wedi cael fy ysgogi ac wedi dysgu cymaint. Ro’n i’n arfer gweithio yn Oriel Môn ychydig o flynyddoedd yn ôl, ac mae wedi bod yn braf dychwelyd a chael profiad o reoli treftadaeth, trin archifau, a chadwraeth, ynghyd ag ymgysylltu â’r gymuned a dysgu am cyswllt rhwng y pethau hyn i gyd. Mae’n hollol wahanol i’r hyn yr oeddwn i’n ei wneud pan roeddwn i’n gweithio yma!

Roedd yn bleser cael gweld y casgliadau hanesyddol ac archeolegol sydd yn cael eu cadw y tu ôl i’r llenni yn Oriel Môn. Roedd rhai o’r eitemau’n bethau yr oeddwn wedi’u gweld ac wedi darllen amdanynt mewn llyfrau ac felly roedd y wych gallu gafael ynddynt a’u cofnodi, o arteffactau Canol Oesol o Lyn Rhosyr i eitemau o gasgliad helaeth Cymdeithas Hynafiaethwyr Ynys Môn. Mae wedi bod yn fraint a chyfle i feithrin cyswllt gyda fy ardal leol a’i gorffennol, gan fod rhai o’r gwrthrychau wedi cael eu darganfod dafliad carreg o’r ardal yr oeddwn i ynddi!

Cefais gyfle i ddychwelyd i Oriel Môn gyda chydweithwyr o Brifysgol Fetropolitan Manceinion yn ddiweddar, er mwyn sganio nifer o arteffactau gyda’r technolegau 3D diweddaraf. Ar yr achlysur hwn roeddem yn awyddus i ddysgu mwy am fowld carreg Bodwrdin - mae’n wrthrych hynod ddiddorol a fyddai, o bosib, wedi cael ei ddefnyddio gan gof teithiol i hysbysebu ac ymarfer ei grefft yn ystod yr Oes Efydd (tua 2,300 i 700 CC yng Nghymru). Mae’r eitem, ynghyd â’r defnydd fyddai wedi cael ei wneud ohono, wedi bod yn destun sawl trafodaeth. Y bwriad yw ail-greu’r gwrthrych gan ddefnyddio deunydd tebyg i’w wneuthuriad gwreiddiol, sef tywod faen, gan ddefnyddio argraffydd 3D, er mwyn creu replica ohono fel ac y byddai wedi edrych pan roedd yn gyflawn, a’i ddefnyddio hefyd i gastio gwrthrychau Oes Efydd i’w harddangos yn Oriel Môn. Rydym wedi bod yn trafod gyda Tom, gof hynod brofiadol, ynglŷn â’r defnydd fyddai wedi cael ei wneud o’r mowld, yn ogystal ag eitemau eraill yn Oriel Môn, megis genfa ffrwyn haearn a blaen gwaywffon a gafodd eu darganfod yn Llyn Cerrig Bach.

Hoffwn ddiolch yn bersonol i’r Uwch Reolwr Amgueddfa ac Archifau, Kelly Parry, a’r Rheolwr Adeilad a Chasgliadau, Ian Jones, am y cyfle i ddatblygu’n broffesiynol a chael cyfrannu at y sector archeolegol a threftadaeth. Yn dilyn seibiant byr, byddaf yn dychwelyd i’r ynys yn y flwyddyn newydd i rannu nifer o ddarganfyddiadau a dysgu mwy o sgiliau proffesiynol!

 

Delwedd y tu ôl i'r llen o ddelio â gwrthrychau o gasgliad Oriel Môn.
Arwyn yn gweithio yn yr Amgueddfa.