
Nodi Cerrig Milltir
Ar ddechrau’r 1940au gwnaethpwyd darganfyddiad anhygoel...
Roedd William Owen Roberts yn brif dirmon pan oedd Llu Awyr Brenhinol y Fali yn cael ei adeiladu, a phan oedd y Weinyddiaeth Awyr eisiau atal tywod rhag chwythu i beiriannau awyrennau yn y gwersyll awyr newydd a adeiladwyd ar dwyni tywod, awgrymodd garthu mawn o gorsydd cyfagos a’i daenu ar y safle er mwyn hau hadau gwair arno.

Arweiniodd y gwaith carthu mawn at ddarganfod celc Llyn Cerrig Bach, un o’r darganfyddiadau Oes Haearn pwysicaf yn Ewrop.
Credir bod yr eitemau a ddarganfuwyd wedi cael eu taflu i lyn hynafol yn Llyn Cerrig Bach tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl, a buan y sylweddolwyd bod yr eitemau, rhai milwrol yn bennaf, yn hynod o bwysig.


80 mlynedd yn ddiweddarach ac mae Llyn Cerrig Bach yn datgelu cyfrinachau diddorol unwaith eto. Ym mis Ebrill 2024, yn ystod gwaith cloddio dan arweiniad y Sefydliad Isadeiledd Amddiffyn (DIO) a phersonél a chyn-filwyr o Operation Nightingale (cynllun gan y DIO sy’n cefnogi iechyd a llesiant personél milwrol a chyn-filwyr), canfuwyd, o dan y maes awyr, enfa ceffyl ac afwyngylch (a ddefnyddiwyd i ddal awenau) o’r Oes Haearn, a fyddai’n wreiddiol wedi bod yn rhan o gelc Llyn Cerrig Bach.

Mae darganfod y darganfyddiadau Llyn Cerrig Bach newydd, y bydd gwaith cadwraeth yn cael ei wneud arnynt yng Nghaerdydd maes o law, yn cyd-fynd â phen-blwydd Eflyn Owen Jones yn 90. Treuliodd Eflyn, merch W O Roberts, nifer o flynyddoedd yn codi ymwybyddiaeth am ddarganfyddiadau Llyn Cerrig Bach, trwy gyfrwng darlithoedd, gweithdai a gwaith gydag ysgolion. Roedd Eflyn hefyd yn gysylltiedig â’r arddangosfa yn Oriel Môn yn 2012, i ddathlu 70 mlynedd ers y darganfyddiad, a’r cyhoeddiad poblogaidd, ‘Llyn Cerrig Bach: Trysor o’r Oes Haearn’. Fe wnaethom groesawu Eflyn i Oriel Môn yn ddiweddar i weld rhai o’r trysorau newydd cyffroes eraill a ddaeth i feddiant yr amgueddfa’n ddiweddar.


Bydd y darganfyddiadau cyffroes hyn yn cael eu harddangos yn fuan i bawb eu mwynhau yn ein harddangosfa ‘Trysor’, fydd yn agor yng Ngwanwyn 2026.