Neidio i'r prif gynnwys
Ffotograff o ddogfennau hen wedi ei ffeindio mewn ysgubor

Beth sydd yn eich cwt gwair?

Cyhoeddwyd: 16 Gorffennaf 2025

Ym mis Gorffennaf 2024 gofynnodd Tom Bown i Archifau Môn fynd draw i’w fferm, Llwydiarth Esgob, Llannerchymedd i edrych ar weithredoedd a oedd wedi’u storio yn un o’r tai allan ar y fferm. Pan gyrhaeddom, daethom o hyd i gasgliad helaeth o ewyllysiau a gweithredoedd drafft gan berthnasau Mr Bown, y teulu Prichard; twrneiod a ffermwyr a fu’n byw a gweithio yn Llwydiarth Esgob am dros dau gan mlynedd. Mae’r blog yn canolbwyntio ar 321 o ewyllysiau a 272 o ohebiaethau yn gysylltiedig â’r ewyllysiau hynny. Dydw i ddim wedi cyfri’r gweithredoedd eto!

Ym mis Gorffennaf 2024 gofynnodd Tom Bown i Archifau Môn fynd draw i’w fferm, Llwydiarth Esgob, Llannerchymedd i edrych ar weithredoedd a oedd wedi’u storio yn un o’r tai allan ar y fferm. Pan gyrhaeddom, daethom o hyd i gasgliad helaeth o ewyllysiau a gweithredoedd drafft gan berthnasau Mr Bown, y teulu Prichard; twrneiod a ffermwyr a fu’n byw a gweithio yn Llwydiarth Esgob am dros dau gan mlynedd. Mae’r blog yn canolbwyntio ar 321 o ewyllysiau a 272 o ohebiaethau yn gysylltiedig â’r ewyllysiau hynny. Dydw i ddim wedi cyfri’r gweithredoedd eto!

Ffotograff o ddogfen ddrafft

Ewyllysiau – ychydig o hanes

Gwnaeth ‘Statud Ewyllysiau’ 1540 hi’n bosib i dirfeddianwyr benderfynu pwy fyddai’n etifeddu eu tir yn dilyn eu marwolaeth. Roedd modd i fechgyn dros 14 oed a merched dros 12 oed wneud ewyllys. Yn dilyn Deddf Ewyllysiau 1837 cafodd yr oedran ei godi i 21, ac roedd yn rhaid i wragedd gael caniatâd gan eu gŵr. Byddai eiddo’r wraig yn cael ei drosglwyddo i ystâd y gŵr yn awtomatig ar ôl priodi. Ni newidiwyd y ddeddfwriaeth hon hyd nes Deddf Eiddo Gwragedd Priod 1882 ac ni chafodd gwragedd priod reolaeth lwyr ar eu heiddo tan 1893.

Ewyllysiau – gwybodaeth dechnegol

Gellir dod o hyd i ewyllysiau sydd wedi cael eu hysgrifennu ar femrwn neu ar bapur, ac mae’n dibynnu a ydynt yn rhai gwreiddiol neu gopïau. Mae’r casgliad hwn i gyd ar bapur.

  • Roedd ‘Ewyllys a Thestament Olaf’ yn cael ei wneud gan ewyllysiwr neu ewyllyswraig.
  • Roedd eiddo, adeiladau a thir yn cael eu trosglwyddo.
  • Roedd nwyddau ac eiddo personol yn cael eu gadael.

Mae hyn yn dyddio o’r cyfnod canoloesol pan roedd:

  • Ewyllysiau’n delio ag eiddo a thir
  • A Thestamentau’n delio ag eitemau personol.
Ffotograff o ewyllys
Ffotograff o ewyllys

Roedd rhaid i’r ewyllys gwrdd ag amodau penodol er mwyn iddi fod ag unrhyw rym cyfreithiol, yn cynnwys y canlynol:

  • Roedd rhaid i’r ewyllys fod yn ysgrifenedig
  • Roedd rhaid enwi ysgutor neu ysgutorion a fyddai’n gyfrifol am gyflawni dymuniadau’r unigolyn
  • Roedd rhaid i’r ewyllys gael ei llofnodi a’i selio gan y sawl a wnaeth yr ewyllys
  • Roedd rhaid iddi gael ei llofnodi gan dri thyst a oedd wedi gwylio’r ewyllysiwr/ewyllyswraig yn llofnodi’r ewyllys
  • Roedd rhaid iddi fod yn ewyllys olaf oni bai bod tystiolaeth bod rhywun wedi ymyrryd â hi eu bod yr unigolyn wedi cael ei orfodi i newid ei ewyllys.

Roedd rhaid i bob ewyllys gael ei phrofi gan awdurdod cyfreithiol, proses o’r enw ‘profeb’, sy’n dod o’r gair Lladin probatum - profi. Roedd y broses yn cael ei chwblhau gan yr eglwys a llysoedd maenorol penodol tan 1858 pan ddaeth y Gofrestrfa Profiant Sifil i fodolaeth. Gellir dod o hyd i ewyllysiau Esgobaeth Bangor rhwng 1576 - 1858, sy’n cynnwys Ynys Môn, ar-lein yn:

Chwilio am Ewyllys – Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ffotograff o ewyllys

Ein hewyllysiau - y broses

Pan aethom i nôl y casgliad o Lwydiarth Esgob, er eu bod mewn cyflwr da am eu hoed, roedd rhaid cael gwared ar ddau gan mlynedd o lwch a llinyn a oedd wedi cael ei gau’n dynn o amgylch y gwahanol fwndeli. Fe wnaethom ynysu’r bwndeli i’w harchwilio rhag lleithder neu bryfaid o’r fferm a defnyddio trapiau anifeiliaid bach i’w monitro. Fe wnaethom eu glanhau â sbyngau a brwsys a’n peiriant anhygoel sy’n sugno llwch a’i gau mewn hidlwr. Fe benderfynom gadw’r ewyllysiau yn nhrefn y bwndeli a chreu catalog o’u cynnwys h.y. enwi’r holl bobl a’u heiddo lle bo modd. Mae’r wybodaeth wedi cael ei throsglwyddo i’n cronfa ddata a’i huwchlwytho i’r Hwb Archifau lle gallwch weld a oedd y teulu Prichard yn gyfrifol am lunio ewyllys un o’ch cyndadau chi:

Hafan – Hwb Archifau

ffotograff o ddrafftiau ewyllysiau a gynhelir mewn bocs
Ffotograff o mynd trwy'r gwaith yn yr Archifdy
ffotograff o weithredoedd wedi'u didoli yn y archifau
gwaith a gedwir yn yr archifau

Unigolion

Mae’n ddiddorol gweld ewyllys John Owen, Llannerchymedd, a oedd yn was i fonheddwr. Mae gennym sawl enghraifft o foneddigion yn gadael eitemau i’w gweision ond dim ond un enghraifft o arall yn ein casgliad o was yn gadael rhodd, sef Sarah Price, hen ferch a oedd yn forwyn i aelodau’r teulu Massey. Mae’r ewyllysiau’n dangos pa mor gyfoethog oedd rhai pobl. Ym 1833 ysgrifennodd Frances Sparrow o Fiwmares at ei thwrnai, John Jones, i ddweud bod ganddi ‘£1000 i’w adael’ i’r unigolion yr oedd wedi’u henwi. Byddai hyn werth £102,000 heddiw. Fel arfer eitemau bach a dodrefn sy’n cael eu gadael ond ym 1834 gadawodd Robert Williams o’r Royal Oak ym Miwmares ei slŵp [llong fechan ag un hwylbren], y Susanna, i’w blant. Roedd ganddo ferch o’r enw Susan. Dwi wedi bod yn meddwl tybed oedd ei ferch wedi cael ei henwi ar ôl y llong, neu’r llong ar ei hôl hi…..

Ffotograff o ddogfen ddrafft
Ffotograff o lythyr.
Ffotograff o dystiolaeth ewyllys
Ffotograff o ewyllys drafft

Ambell beth arall

Mae’r arfer o selio amlen â chwyr wedi diflannu erbyn hyn fwy neu lai. Mae’r cwyr yn fregus iawn ar y dogfennau hyn ac yn aml iawn nid yw’n goroesi. Yn ffodus iawn mae gennym enghreifftiau cyflawn yn y casgliad hwn. Mae’r gohebiaethau hefyd yn cynnwys stampiau o’r cyfnod.

Amanda Sweet, Archifydd, Archifau Ynys Môn

Statute of Wills - Wikipedia

Glossary of Will terminology | Autistica

Where There’s a Will, There’s a Way – The Iron Room

Will - The University of Nottingham

Ffotograff o lythyr gydag eitemau postio dau
Ffotograff o lythyr, amlen a brwsio paent
Ffotograph o lythyr